Anogaeth y Nadolig gyda Greg LaurieSampl
Rhoddwyd Mab
Mewn synnwyr ehangach mae Duw'n hollbresennol, sy'n golygu ble bynnag dŷn ni'n mynd, mae e yna. Ond, os ydyn ni eisiau Duw gyda ni go iawn, ac yn fwy penodol, os dŷn ni eisiau i Grist fyw'n ein calonnau, mae'n rhaid i ni droi oddi wrth ein pechod, a chredu ynddo e.
Daeth y plentyn hyfryd mewn cafn bwydo anifeiliaid atom gyda phwrpas, a hynny oedd i farw dros bechodau'r byd. Ganwyd Iesu fel bod marwolaeth Iesu, ac yn y pen draw, atgyfodiad Iesu. Cafodd ei eni i farw fel ein bod ni yn cael byw.
Dw i'n bersonol yn gwybod am y boen o golli plentyn. A dw i'n meddwl, i riant, does dim poen mwy na hyn. Mae Duw ei hun yn gwybod am hynny. Mae e'n gwybod sut beth yw colli plentyn. Dŷn ni'n siarad am aberth Iesu, ac yn gyfiawn felly, wrth iddo ddod i'r ddaear hon, rhoi ei freintiau dwyfoldeb o'r neilltu, ac yn wirfoddol aeth at groes a marw dros bechodau'r byd. Ond peidiwn ag anghofio aberth y Tad a wyliodd ei Fab yn cyrraedd y byd hwn.
Mae Eseia, pennod 9, adnod 6 yn ei grynhoi'n berffaith, "Achos mae plentyn wedi cael ei eni i ni, mab wedi cael ei roi i ni. Bydd e'n cael y cyfrifoldeb o lywodraethu. A bydd yn cael ei alw yn Strategydd rhyfeddol, y Duw arwrol, Tad yr oesoedd, Tywysog heddwch."
Mae hynny'n rhoi i ni bersbectif o'r nefoedd a'r ddaear i ni. O bersbectif y ddaear, cafodd plentyn ei eni i ni. Dyna dŷn ni'n ddathlu adeg y Nadolig. Ond o bersbectif y nefoedd, rhoddwyd i ni Fab. Anfonodd Duw y Mab. Fe wnaeth e hyn am ei fod yn caru pawb, achos mae e eisiau i pawb gael y rhodd eithaf: y rhodd o fywyd tragwyddol. Dyma yw'r unig rodd sy'n rhoi dro ar ôl tro.
Hawlfraint © 2011 gan Harvest Ministries. Cedwir pob hawl. Yr adnodau wedi'i cymryd o beibl.net
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Paid gadael i brysurdeb a phwysau tymor y gwyliau ddwyn oddi arnat lawenydd a dathlu go iawn o'n Gwaredwr Iesu y Rhagfyr hwn! Derbynia anogaeth ddyddiol drwy ddefosiynau sbesial y Nadolig, y Parch Greg Laurie, wrth iddo fyfyrio ar wir ystyr y cyfnod mwyaf clodfawr o'r flwyddyn. Harvest Ministries gyda Greg Laurie
More