Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Anogaeth y Nadolig gyda Greg LaurieSampl

Christmas Encouragement By Greg Laurie

DYDD 22 O 25

Yr hyn all Duw ei wneud

Does gan y gymdeithas ddim atebion ar gyfer yr holl broblemau sy'n wynebu ein gwlad heddiw. Mae'n eironig ond mae'n ymddangos fel bod y gymdeithas yn gwneud popeth all hi i danseilio'r unig un all ein helpu, a hwnnw yw Iesu Grist.

Mae yna bobl wedi'i dal yn ein system gyfreithiol fel troseddwyr cyson. Mae yna farnwyr sy'n gwneud penderfyniadau anghywir. Mae teuluoedd yn chwalu. Ac mae'r holl elfennau hyn yn cyfuno i greu cymdeithas all wneud fawr ddim i newid calon person. Mae ymdrechion i adfer gan amlaf yn methu. I ddweud y gwir, yr unig raglenni sy'n llwyddo i greu greu unrhyw newid parhaol yw rhai sydd wedi'i seilio ar ffydd, ac yn fwy penodol, sy'n cael eu rhedeg gan Gristnogion sy'n galw pobl i ffydd yn Iesu Grist. Does gan y gymdeithas mo'r atebion.

Fe wnaeth Iesu gyfarfod dau ddyn oedd â'u bywydau wedi'i andwyo gan Satan. Doedd gan y gymdeithas mo'r atebion. Yna, daeth Iesu. Beth wnaeth e? Chwiliodd amdanyn nhw'n y fynwent a chynnig gobaith iddyn nhw. I ddweud y gwir mae fersiwn Luc o'r hanes yn dweud wrthon ni beth ddigwyddodd i un o'r dynion. "Aeth pobl allan i weld drostyn nhw'u hunain. Dyma nhw'n dychryn pan ddaethon nhw at Iesu, achos dyna lle roedd y dyn roedd y cythreuliaid wedi mynd allan ohono yn eistedd yn dawel o flaen Iesu yn gwisgo dillad ac yn ei iawn bwyll (Luc, pennod 8, adnod 35). Pam oedd ofn ar y bobl? Doedd en nhw ddim yn gwybod beth i'w wneud o'r hyn ddigwyddodd. Roedd e wedi'i drawsnewid gymaint roedden nhw wedi dychryn. Doedden nhw ddim hyd yn oed yn credu bod dyn fel e'n gallu cael ei newid mewn ffordd mor ddramatig.

Mae'n beth mor ogoneddus pan fydd Crist yn trawsnewid rywun gymaint fel na elli di ddychmygu fel roedd y person hwnnw gynt. Rwyt ti'n sylweddoli ei fod yn bŵer bywyd wedi'i newid. A dyna all Duw ei wneud.

Hawlfraint © 2011 gan Harvest Ministries. Cedwir pob hawl. Yr adnodau wedi'i cymryd o beibl.net
Diwrnod 21Diwrnod 23

Am y Cynllun hwn

Christmas Encouragement By Greg Laurie

Paid gadael i brysurdeb a phwysau tymor y gwyliau ddwyn oddi arnat lawenydd a dathlu go iawn o'n Gwaredwr Iesu y Rhagfyr hwn! Derbynia anogaeth ddyddiol drwy ddefosiynau sbesial y Nadolig, y Parch Greg Laurie, wrth iddo fyfyrio ar wir ystyr y cyfnod mwyaf clodfawr o'r flwyddyn. Harvest Ministries gyda Greg Laurie

More

Hoffem ddiolch i Harvest Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i www.harvest.org