Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Anogaeth y Nadolig gyda Greg LaurieSampl

Christmas Encouragement By Greg Laurie

DYDD 1 O 25

Wyt ti'n barod?

Pan ddaeth y Nadolig cyntaf, pan anwyd Iesu, wnaeth y rhan fwyaf o bobl ei fethu. Wrth gwrs, doedd yna ddim arwyddion amlwg fel ceirw ar y lawnt flaen. Doedd carolau heb ei sgwennu. Doedd dim goleuadau lliwgar ar werth ym marchnad y dref. Doedd plant ddim yn ei chael hi'n anodd i gysgu am fod dim yn wahanol i unrhyw noson arall.

Ond roedd yna arwyddion y Nadolig cyntaf, yn dyddio nôl ganrifoedd. Roedd y proffwydi Hebreig wedi rhagfynegi fod y Meseia yn dod, ac roedden nhw'n benodol iawn y byddai e'n cael ei eni o wyryf y mhentref bach Bethlehem. "Ond wedyn ti, Bethlehem Effrata, rwyt ti'n un o'r pentrefi lleiaf pwysig yn Jwda. Ond ohonot ti y daw un fydd yn teyrnasu yn Israel – Un sydd â'i wreiddiau yn mynd yn ôl i'r dechrau yn y gorffennol pell (Micha, pennod 5, adnod 2).

Ar y Nadolig cyntaf roedd bywyd yr un mor arferol ag arfer. Roedd hi wedi bod yn gyfnod llwm i'r Iddewon am gryn amser. Roedd yna dawelwch oeraidd wedi bod o'r nefoedd. Roedd pedwar can mlynedd wedi pasio a doedd yna ddim un proffwyd wedi bod i siarad dros Dduw. Doedd yna ddim gwyrthiau wedi'i cyflawni Roedden nhw dan ormes Rhufain. Roedd pethau'n dywyll iawn. Roedd hi'n amser i'r Meseia.

Eto, pan gyrhaeddodd, wnaeth gymaint ei fethu. Gŵr y llety, Pobl Bethlehem. Yr ysgolheigion. Herod. Rhufain gyfan. Dim ond llond llaw o bobl sylweddolodd ac oedd yn barod.

Mae Iesu Grist yn dod ôl i'r ddaear eto. Y cwestiwn ydy, ydyn ni wedi gwneud mwy i ddathlu digwyddiad o'r gorffennol nag ydyn ni ar gyfer un yn y dyfodol? Falle ein bod ni'n barod ar gyfer y Nadolig, ond ydyn ni'n barod ar gyfer Crist yn dod yn ôl?

Hawlfraint © 2011 gan Harvest Ministries. Cedwir pob hawl. Yr adnodau wedi'i cymryd o beibl.net

Ysgrythur

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Christmas Encouragement By Greg Laurie

Paid gadael i brysurdeb a phwysau tymor y gwyliau ddwyn oddi arnat lawenydd a dathlu go iawn o'n Gwaredwr Iesu y Rhagfyr hwn! Derbynia anogaeth ddyddiol drwy ddefosiynau sbesial y Nadolig, y Parch Greg Laurie, wrth iddo fyfyrio ar wir ystyr y cyfnod mwyaf clodfawr o'r flwyddyn. Harvest Ministries gyda Greg Laurie

More

Hoffem ddiolch i Harvest Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i www.harvest.org