Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Anogaeth y Nadolig gyda Greg LaurieSampl

Christmas Encouragement By Greg Laurie

DYDD 9 O 25

Y Noson Rannodd Amser am byth
mor gymryd a'i ddibefeddu. Mae hi fel bod ein diwylliant wedi cymryd y gair Nadolig a'i wagio o'i ystyr, ei lusgo drwy'r gwter, a'i roi yn ôl heb ei bŵer. Dydy'r broblem ddim gyda seciwlareiddio'r Nadolig. Mae hyd yn oed Cristnogion sydd â'r bwriad iawn wedi un ai ei ramantu gymaint, neu ei wneud mor sentimental, fel eu bod yn colli pwynt y stori go iawn.

Wrth i ni feddwl am y Nadolig mae gynnon ni ddarlun sentimental o olygfa'r cafn bwydo anifeiliaid. Mae'r babi Iesu yna. Mae Joseff yna. Mae Mair yna. Mae gan bob un ohonon nhe eu heurgylch. Yna, mae'r bugeiliaid yna hefyd, a'r gwŷr doeth; fel arfer mewn gwisgodd amryliw, yn cydweddu.

Y gwir amdani yw, doedd gan neb eurgylch. Wnaeth y gwŷr doeth ddim ymweld â Iesu pan oedd yn y cafn bwydo anifeiliaid. Mae efengyl Mathew yn dweud na wnaethon nhw gyrraedd am gryn amser ar ôl hynny (gymaint a dwy flynedd yn ddiweddarach). A dydy'r Beibl ddim yn dweud bod tri gŵr doeth; ond iddyn nhw ddod â thri rhodd.

Yna, mae yna'r ffordd mae'r Nadolig wedi'i ramantu gyda delweddau o gefn gwlad, eira slediau wedi'u tynnu gan geffylau a ffenestri rhewllyd a chanhwyllau coch. Falle ein bod yn colli ei wir neges a'i harddwch go iawn.

Felly gad i ni hepgor y traddodiad. Gad i ni hepgor y pethau sy'n ein rhwystro rhag gweld genedigaeth Iesu ar gyfer hyn oedd go iawn. Mae dysgu hyn ddim yn lleihau ei effaith, mae e, mewn gwirionedd, yn mireinio ei bŵer. Wedi'r cyfan, dyma oedd y noson wnaeth rannu amser am byth, y noson pan wnaeth Duw ei hun ddod i'r ddaear. Dyma oedd y noson y gwnaeth Duw gamu allan o'r nefoedd i mewn i hanes.

Brawddeg grynhoi: Oes gen ti unrhyw draddodiad sydd angen ei hepgor er mwyn gweld gwir ystyr y Nadolig?

Hawlfraint © 2013 Harvest Ministries. Cedwir pob hawl.
Yr adnodau wedi'i cymryd o beibl.net

Ysgrythur

Diwrnod 8Diwrnod 10

Am y Cynllun hwn

Christmas Encouragement By Greg Laurie

Paid gadael i brysurdeb a phwysau tymor y gwyliau ddwyn oddi arnat lawenydd a dathlu go iawn o'n Gwaredwr Iesu y Rhagfyr hwn! Derbynia anogaeth ddyddiol drwy ddefosiynau sbesial y Nadolig, y Parch Greg Laurie, wrth iddo fyfyrio ar wir ystyr y cyfnod mwyaf clodfawr o'r flwyddyn. Harvest Ministries gyda Greg Laurie

More

Hoffem ddiolch i Harvest Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i www.harvest.org