Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Anogaeth y Nadolig gyda Greg LaurieSampl

Christmas Encouragement By Greg Laurie

DYDD 12 O 25

Gwir Neges y Nadolig

Adeg yma o'r Nadolig byddwn ni'n dweud, "Nadolig Llawen." Mae'n llawer gwell gen i hynny na, "Gwyliau Hapus," ond dydw i ddim am ffraeo dros y peth. Yn lle hynny, dw i eisiau bod yn rasol. Wedi'r cyfan, dydy'r Nadolig ddim wastad yn amser hapus i bawb. I rywun sydd wedi colli eu swydd, dydy hwn ddim mo'r amser hyfrytaf gan fod gymaint o bwyslais yn cael ei roi ar Nadolig llawen materol.

Mae yna rai sydd wedi rhywun oedd yn annwyl iddyn nhw. Dw i'n un o'r pobl hynny, ac mae pethau oedd yn fy ngwneud i'n hapus ar un adeg, nawr, yn fy ngwneud i'n drist. Mae'r llawenydd wedi troi'n dristwch am eu bod yn deffro atgofion o amseroedd hapus o dreulio amser gyda'n gilydd. Felly, mae'r Nadolig yn gallu bod yn amser anodd i rai.

Mae yna lawer sydd angen anogaeth adeg hwn o'r flwyddyn. D'oes ganddyn nhw ddim eisiau anrheg Nadolig, mae nhw angen ei bresenoldeb Nadoligaidd. Mae nhw angen eu hatgoffa am beth yw gwir ystyr y tymor hwn. Nid pethau, nag anrhegion sy'n bwysig.

Mae yna le i'r pethau hyn, ond dŷn ni angen cofio gwir neges y Nadolig, sef "Immanuel - y mae Duw gyda ni." Ac ar gyfer yr un sydd mewn poen, yn unig, yn galaru, hwn yw'r adeg o'r flwyddyn i ddod â neges o anogaeth iddyn nhw a dweud, "Neges y Nadolig yw, y bydd Duw gyda chi. Bydd Duw yn eich nerthu."

Felly, chwilia am gyfleoedd i rannu cariad Duw, yn ystod y cyfnod hwn, oherwydd mae'n ymddangos fel amser pan dŷn ni'n fwy agored i ddechrau sgwrs ag eraill. Nawr, mae'n gyfle gwych i ddod ag anogaeth i rywun sy'n stryglo. Pwy sydd angen anogaeth heddiw?

Hawlfraint © 2011 gan Harvest Ministries. Cedwir pob hawl. Yr adnodau wedi'i cymryd o beibl.net

Ysgrythur

Diwrnod 11Diwrnod 13

Am y Cynllun hwn

Christmas Encouragement By Greg Laurie

Paid gadael i brysurdeb a phwysau tymor y gwyliau ddwyn oddi arnat lawenydd a dathlu go iawn o'n Gwaredwr Iesu y Rhagfyr hwn! Derbynia anogaeth ddyddiol drwy ddefosiynau sbesial y Nadolig, y Parch Greg Laurie, wrth iddo fyfyrio ar wir ystyr y cyfnod mwyaf clodfawr o'r flwyddyn. Harvest Ministries gyda Greg Laurie

More

Hoffem ddiolch i Harvest Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i www.harvest.org