Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Anogaeth y Nadolig gyda Greg LaurieSampl

Christmas Encouragement By Greg Laurie

DYDD 16 O 25

Yr hyn dw i ei eisiau'r Nadolig hwn

Dw i wastad wedi credu yn addewid y Nadolig. Mae yna rywbeth sbesial wedi bod yn rhan o'r adeg hon o'r flwyddyn, wrth er=drych yn ôl i ddyddiau cynnar fy mhlentyndod.


Beth dŷn ni'n ei garu am y Nadolig, unwaith dŷn ni wedi llwyddo i fynd heibio i'r maglau dechreuol?
Dw i'n meddwl mai'r synnwyr o ryfeddod, harddwch a'r disgwyl yw e. Mae e am y gerddoriaeth, yr olwg o ryfeddod ar wyneb plentyn, a'r bwyd anhygoel. Mae e am gwmni teulu a ffrindiau. Mae e hefyd am ddiffyg ymrafael a chybydd-dod (gyda'r eithriad o'r torfeydd ar "ddydd Gwener Gwallgof").

Ond pa mor aml mae'r Nadolig yn cyflawni ei addewidion mewn gwirionedd? Ychydig yma ac acw, ond ar y cyfan, mae'n drôn diddiwedd hysbysebion dideimlad ar y teledu. Y ffrithiant a'r pwysau sy'n dod pan mae'n rhaid i ni brynu anrhegion i bobl nad ydyn ni prin yn eu hadnabod. Dyma'r disgwyliad a roddir arnom gan eraill ac weithiau hyd yn oed ein hunain.


Yna mae'r siom mawr hwnnw ar ôl y Nadolig - y siom o fethu cwrdd â disgwyliadau. Doedden ni ddim yn gallu rhoi beth oedden ni eisiau eu rhoi, na'r hyn oedden nhw eisiau ei dderbyn go iawn. Neu chefais tithau ddim yr hyn oeddet ti'n wedi obeithio amdano. Yna, fe ddaw y biliau sydd angen eu talu...

Felly, ar ei waethaf, beth yw'r Nadolig? Mae'n ddefod eithafol, masnachol, gwag, blinedig a drud iawn sy'n llusgo'n ddiddiwedd am fisoedd ar y tro.

Beth yw'r Nadolig ar ei orau? Mae'n ragolwg o'r hyn sydd i ddod - yr harddwch, y gerddoriaeth addolgar, yr angylion addolgar, y cariad, y cynhesrwydd, yr addewid, y gobaith...a phopeth sydd wedi'i addo i ni mewn bywyd, sydd eto i ddod.

Ti'n gweld, mae'r Nadolig yn addewid. Mae'n addewid sydd eto heb ei gadw'n gwbl lawn.
All y Nadolig ddim bod y cwbl dŷn ni am iddo fod. Dim ond gwyliau yw e. All y Nadolig ddim dod â harmoni i'th gartref. All y Nadolig ddim dod â heddwch ar y ddaear. All y Nadolig ddim dod â hapusrwydd.

Ond fe all Crist ei hun wneud hyn, a mwy. Dyn beth dŷn ni'n hiraethu amdano go iawn, yn nyfnder ein calon.

• Nid y Nadolig, ond Crist
• Nid difyrrwch, ond y Meseia
• Nid ewyllys dda, ond Duw. • Nid anrhegion, ond ei bresenoldeb.

Bydd unrhyw beth neu unrhyw un sy'n brin o hyn yn siomiant.. Ond nid felly Duw, fyrh.
Dyna dw i ei eisiau'r Nadolig hwn - Iesu Grist.

Hawlraint © 2011 ganHarvest MinistriesCedwir pob hawl. Yr adnodau wedi'i gymryd o beibl.net.
Diwrnod 15Diwrnod 17

Am y Cynllun hwn

Christmas Encouragement By Greg Laurie

Paid gadael i brysurdeb a phwysau tymor y gwyliau ddwyn oddi arnat lawenydd a dathlu go iawn o'n Gwaredwr Iesu y Rhagfyr hwn! Derbynia anogaeth ddyddiol drwy ddefosiynau sbesial y Nadolig, y Parch Greg Laurie, wrth iddo fyfyrio ar wir ystyr y cyfnod mwyaf clodfawr o'r flwyddyn. Harvest Ministries gyda Greg Laurie

More

Hoffem ddiolch i Harvest Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i www.harvest.org