Anogaeth y Nadolig gyda Greg LaurieSampl
Rhodd Duw i Ni (Rhan 1)
Pan wyt yn blentyn, mae'r Nadolig i gyd i'w wneud â derbyn anrhegion. Ym mis Rhagfyr mae dy ben yn llawn darluniau o'r anrhegion yr hoffet eu cael.
Ond, nid yr anrhegion a rown i'n gilydd yw neges go iawn y Nadolig. Yr ystyr go iawn yw rhodd Duw yn ei Fab, Iesu Grist, i ni.
Yn ystod y deuddydd nesaf, dw i eisiau tynnu dy sylw at dri peth i ti am y rhodd roddodd Duw i ni yn y cafn bwydo anifeiliaid yn Bethlehem.
Y peth cyntaf dŷn ni angen sylwi arno yw ei fod wedi dod atom wedi'i lapio yn syml. Mae rhai pobl yn mynd i drafferth mawr i lapio anrhegion yn hynod o daclus. Ond, nid mewn papur lapio crand ddaeth a rhodd Duw i ni. ond yn hytrach mewn cafn bwydo anifeiliaid budr mewn stabl mewn tref fach ddi-nod o'r enw, Bethlehem.
Dyna beth sy'n hyfryd am y digwyddiad hwn. Gosodwyd Iesu mewn cafn bwydo anifeiliaid fel ein bod ni yn gallu cael cartref yn y nefoedd. Doedd y Gwaredwr ddim wedi'i lapio mewn cynfas sidan ond mewn cadachau cyffredin. Yn y cafn roedd y rhodd gorau posib i ni wedi'i lapio'n blaen iawn.
Yr ail beth dw i eisiau tynnu sylw ato e yw nad ydyn ni'n haeddu rhodd Duw i ni. Ystyria hyn, rhoddodd Duw y rhodd mwyaf o'i Fab i ni tra roedden ni yn dal ati i bechu yn ei erbyn e (gweler Rhufeiniaid, pennod 5, adnod 8).
Wnaethon ni ddim byd o gwbl i fod yn deilwng o, nag ychwaith haeddu ei rodd. Dyna wirionedd anhygoel y Nadolig. Er gwaethaf pwy ydyn ni, rhoddodd Duw ei Fab i ni, "er mwyn i bwy bynnag sy'n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol" (Ioan, pennod 3, adnod 16).
Gyda'r Nadolig ond ychydig ddiwrnodau i ffwrdd, paratoa dy galon ar gyfer dathlu geni ein Gwaredwr. Myfyria ar y ffaith fod Iesu wedi'i eni i farw fel ein bod ni yn cael byw.
Hawlfraint © 2011 gan Harvest Ministries. Cedwir pob hawl. Yr adnodau wedi'i cymryd o beibl.net
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Paid gadael i brysurdeb a phwysau tymor y gwyliau ddwyn oddi arnat lawenydd a dathlu go iawn o'n Gwaredwr Iesu y Rhagfyr hwn! Derbynia anogaeth ddyddiol drwy ddefosiynau sbesial y Nadolig, y Parch Greg Laurie, wrth iddo fyfyrio ar wir ystyr y cyfnod mwyaf clodfawr o'r flwyddyn. Harvest Ministries gyda Greg Laurie
More