Anogaeth y Nadolig gyda Greg LaurieSampl
Yr hyn yw'r Nadolig
Wrth i ni edrych ar ein byd heddiw, dŷn ni'n sylweddoli mai dim ond rhan o'r addewid yn Eseia, pennod 9, adnodau 6 i 7 sydd wedi'i gyflawni. Mae'r Mab wedi'i roi. Mae'r plentyn wedi'i eni. Ond dydy e ddim wedi dodi lywodraethu. Does gynnon ni ddim, eto, heddwch, barn a chyfiawnder. Ond y newyddion da ydy fe ddaw diwrnod pan fydd Crist yn dod yn ôl. Bydd yn sefydlu ei deyrnas ar y ddaear. A rheolaeth cyfiawn Duw ei hun fydd e.
Cyn i Iesu allu llywodraethu roedd rhaid iddo gymryd baich y groes arno'i hun. Cyn iddo allu gwisgo coron gogoniant fel Brenin y Brenhinoedd roedd rhaid iddo wisgo y goron ddrain o gywilydd a rhoi ei hun yn aberth dros bechodau'r byd. Seren oedd arwydd ei ddyfodiad. Ond pan fydd yn dod nesaf bydd yr wybren ei hun yn agor fel sgrôl, bydd y sêr yn disgyn o'r awyr, a bydd e ei hun yn goleuo'r awyr.
Daeth Crist i'r byd. Daeth duw yn agos atat fel dy fod yn gallu agosáu ato e - i roi pwrpas ac ystyr i'th fywyd, i faddau dy bechodau, ac i roi gobaith o'r nefoedd i ti tu hwnt i'r bedd. Dydy'r Nadolig ddim byd i wneud â thinsel, siopa neu anrhegion. dydy'r Nadolig ddim byd i wneud â'r anrhegion o dad y goeden. Yn hytrach mae'r Nadolig yn ymwneud â'r rhodd roddwyd ar y pren pan fu farw Crist am ein pechodau a rhoi i ni'r rhodd o fywyd tragwyddol.
Hawlfraint © 2011 gan Harvest Ministries. Cedwir pob hawl. Yr adnodau wedi'i cymryd o beibl.net
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Paid gadael i brysurdeb a phwysau tymor y gwyliau ddwyn oddi arnat lawenydd a dathlu go iawn o'n Gwaredwr Iesu y Rhagfyr hwn! Derbynia anogaeth ddyddiol drwy ddefosiynau sbesial y Nadolig, y Parch Greg Laurie, wrth iddo fyfyrio ar wir ystyr y cyfnod mwyaf clodfawr o'r flwyddyn. Harvest Ministries gyda Greg Laurie
More