Anogaeth y Nadolig gyda Greg LaurieSampl
Rhodd Duw i Ni (Rhan 2)
Dŷn ni'n dathlu'r Nadolig er mwyn llawenhau am rodd gwerthfawr Duw i ni. Roedd genedigaeth Iesu Grist i ni yn rodd gan Dduw ddaeth wedi'i lapio'n syml ac yn hollol anhaeddiannol. Ond mae rhodd Crist i ni hefyd yn egluro ei bwrpas i ni fel synoliaeth.
Nid ryw syniad ar fympwy oedd Crist. Oesoedd cyn bod stabl yn Bethlehem, a hyd yn oed cyn i Adda ac Efa weld ei gilydd. a hyd yn oed cyn bodolaeth Gardd Eden, penderfynodd Duw i anfon ei Fab Iesu Grist i farw drosom am ein pechodau.
O'r dechrau cyntaf, gwyddai Duw na fyddai'r ddynoliaeth yn cyrraedd y nod o'i ogoniant. Dyna pam mae'r ysgrythur yn cyhoeddi fod Iesu Grist wedi'i ladd yn aberth. (gweler Datguddiad, pennod 13, adnod 8).
Gwnaeth Duw benderfyniad o'r dechrau cyntaf i Iesu ddod i'r byd, byw a marw ac atgyfodi o farw'n fyw. Mae rhodd Duw i ni yn profi ei gynllun i'n gwaredu.
Y rhodd o Iesu yw gwir ystyr y Nadolig. Daeth Iesu'n agos atom fel ein bod yn gallu mynd yn agos ato e.
Dydy'r Nadolig ddim byd i wneud â thinsel. siopa, nag anrhegion o dan y goeden. Mae'r Nadolig am y rhodd roddodd Duw i ni o Grist ar y pren pan farwodd am ein pechodau, fel ein bod yn gallu cael bywyd tragwyddol.
Dyna mae wedi'i gyflawni. Dyma'r rhodd mae e'n ei gynnig. Ac os wnei di ei dderbyn, byddi'n profi'r Nadolig gorau posib.
Hawlfraint © 2011 gan Harvest Ministries. Cedwir pob hawl. Yr adnodau wedi'i cymryd o beibl.net
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Paid gadael i brysurdeb a phwysau tymor y gwyliau ddwyn oddi arnat lawenydd a dathlu go iawn o'n Gwaredwr Iesu y Rhagfyr hwn! Derbynia anogaeth ddyddiol drwy ddefosiynau sbesial y Nadolig, y Parch Greg Laurie, wrth iddo fyfyrio ar wir ystyr y cyfnod mwyaf clodfawr o'r flwyddyn. Harvest Ministries gyda Greg Laurie
More