Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Anogaeth y Nadolig gyda Greg LaurieSampl

Christmas Encouragement By Greg Laurie

DYDD 24 O 25

Yn ddrwg i'w busnes?

Ar ôl yr wyrth o anfon ysbrydion aflan allan o ddau ddyn oedd wedi gormesu'r bobl yn dreisgar y bydden nhw'n dweud, "Iesu, ti yw'r un. Dŷn ni'n falch am beth rwyt wedi wneud! Nawr, gallwn fynd i'r fynwent er mwyn ymweld â beddau ein teuluoedd a rhoi blodau arnyn nhw. Doedden ni'n methu mynd yn agos o'r blaen am fod gynnon ni ofn y dynion yna. Diolch Arglwydd`, am ddod i'n cymuned." Ond nid dyna ddigwyddodd. Yn lle, roedden nhw eisiau iddo adael. Pam? Roedd, Iesu'n ddrwg i'w busnes.

Roedd Iesu wedi anfon yr ysbrydion aflan allan o'r dynion ac i mewn i genfaint o foch a aeth i lawr y llechwedd serth i mewn i'r llyn. Dw i ddim yn gwybod os mai Iddewon oedd yn gofalu am y moch oherwydd os mai felly oedd hi doedd hyn ddim yn beth addas i'w wneud. Roedden nhw wedi bod yn ennill arian am y moch a roedd dim modd bellach hel celc. Dyna oedd diwedd y stori. Felly doedden nhw ddim yn hoffi hynny. Roedd yn ddrwg i'r economi ac eisiau iddo fynd i ffwrdd.

I rai pobl mae Iesu yn ddrwg i'w busnes. Mae'n nodweddiadol o'r math o fusnes sy'n ysbeilio dioddefaint dynol - hyd yn oed cyfrannu ato. Ac os wyt ti wedi darganfod fod Iesu yn ddrwg i'th fusnes, mae angen iti gael swydd newydd.

Yn ardal Gerasa sylweddolodd y bobl ddim yn dda i'r hyn roedden nhw'n ei wneud ac eisiau iddo fynd i ffwrdd. Mae efengyl Mathew yn dweud wrthom, " Yna dyma pawb yn dod allan o'r dre i gyfarfod Iesu. Ar ôl dod o hyd iddo, dyma nhw'n pwyso arno i adael eu hardal (Mathew, pennod 8, adnod 34). Felly, dyfala beth wnaeth Iesu. Gadawodd.

Wneith Iesu ddim gorfodi ei hun ar fywyd neb. gan gynnwys un ti. A wyt ti wedi'i wahodd i mewn?

Hawlfraint © 2011 gan Harvest Ministries. Cedwir pob hawl. Yr adnodau wedi'i cymryd o beibl.net

Ysgrythur

Diwrnod 23Diwrnod 25

Am y Cynllun hwn

Christmas Encouragement By Greg Laurie

Paid gadael i brysurdeb a phwysau tymor y gwyliau ddwyn oddi arnat lawenydd a dathlu go iawn o'n Gwaredwr Iesu y Rhagfyr hwn! Derbynia anogaeth ddyddiol drwy ddefosiynau sbesial y Nadolig, y Parch Greg Laurie, wrth iddo fyfyrio ar wir ystyr y cyfnod mwyaf clodfawr o'r flwyddyn. Harvest Ministries gyda Greg Laurie

More

Hoffem ddiolch i Harvest Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i www.harvest.org