Anogaeth y Nadolig gyda Greg LaurieSampl
Diwrnod o lawenydd yw dydd Nadolig. Ond i fi, a'r teulu mae yna hefyd naws o dristwch oherwydd absenoldeb Christopher.
Mae'n rhaid imi ddweud wrthot ti, roedd Topher yn caru'r Nadolig. Roedd e wastad yn arwyddocaol iddo fel bachgen bach, a phan ddaeth e'n dad, roedd e eisiau i'r amser fod yn arwyddocaol i'w ferched hefyd. Roedd e wastad mor feddylgar yn ei ddewis o roddion ac yn aml byddai wedi eu gwneud â'i ddwylo ei hunan, oedd yn bleserus iawn imi. Roedd ganddo sgiliau lapio ffantastig hefyd, sydd dim gen i yn sicr.
Ar y nos Nadolig cyntaf wrth i'r bugeiliaid ofalu am eu praidd, daeth yr angylion a'r newyddion da: " “Peidiwch bod ofn. Mae gen i newyddion da i chi! Newyddion fydd yn gwneud pobl ym mhobman yn llawen iawn" (Luc, pennod 2, adnod 10).
Dyma sut wnaeth y nefoedd ddathlu'r Nadolig cyntaf. Ar y noson sanctaidd hon, am ennyd, fe ddaeth y nefoedd i'r ddaear. Mae'r nefoedd a'r ddaear yn cydfodoli bob amser, ond weithiau mae nhw'n gallu ymddangos fydoedd ar wahân a throeon eraill wedi'u gwahanu gan len denau. Pan mae trasiedi'n taro, salwch yn trechu, gall y nefoedd ymddangos yn bell.
Ond pan dŷn ni'n uno gyda'r angylion mewn mawl, a gweld Duw'n ei fawredd, gall y nefoedd ymddangos yn agos iawn. I ni, fel credinwyr, dŷn ni megis ond curiad calon o'r nefoedd nawr. Fel ddwedodd Dafydd, "...dw i o fewn dim i farw" (1 Samuel, pennod 20, adnod 3).
Mae Nadolig yn y nefoedd yn well na Nadolig ar y ddaear. Mae'n ddedwyddwch pur. Nid goleuadau'n pefrio ond golau disglair y nefoedd ei hun. Nid angylion dur ar goeden, ond angylion go iawn Duw ymhobman.
Ar y ddaear mae yna'n aml wrthdaro rhwng teulu a ffrindiau. Yn y nefoedd, gwledda a pherffeithrwydd. Ar y ddaear mae yna fwyd afiach a gorfwyta.
Does dim angen i ni alaru am y rhai dŷn ni'n eu caru sy'n dathlu'r Nadolig yn y nefoedd, ond dŷn ni'n galaru droson ni'n hunain yn eu habsenoldeb.
Heddiw, fodd bynnag gad i'r rheiny ar y ddaear rwyt yn eu caru wybod hynny. Dweda wrthyn nhw'n eiriol oherwydd falle y bydd y rhai rwyt ti a fi yn eu caru yn y nefoedd Nadolig nesaf.
Hawlfraint © 2011 gan Harvest Ministries. Cedwir pob hawl. Yr adnodau wedi'i cymryd o beibl.net
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Paid gadael i brysurdeb a phwysau tymor y gwyliau ddwyn oddi arnat lawenydd a dathlu go iawn o'n Gwaredwr Iesu y Rhagfyr hwn! Derbynia anogaeth ddyddiol drwy ddefosiynau sbesial y Nadolig, y Parch Greg Laurie, wrth iddo fyfyrio ar wir ystyr y cyfnod mwyaf clodfawr o'r flwyddyn. Harvest Ministries gyda Greg Laurie
More