Anogaeth y Nadolig gyda Greg LaurieSampl
O fewn Terfynau
Pan fyddi di'n rhoi dy ffydd yn Iesu Grist, fel arfer bydd arwydd yn cael eri hongian am dy wddf sy'n dweud, "O dan reolaeth newydd." Iesu Grist sydd biau ti nawr, a dydy e ddim yn gweithredu ar sail rhaglen rannu. Onid yw hynny'n hyfryd i'w wybod? Dydy e ddim yn dweud, "Dyna ni, mae Ioan gen i am chwe mis, a chaiff y diafol e am y chwe mis wedyn." Nid dyna sy'n digwydd. Pan fyddwn yn rhoi ein ffydd yng Nghrist, mae e'n dod i mewn i'n calonnau a'n bywyd fel yr unig breswyliwr.
Er na all Cristion gael ei feddiannu gan gythrau, fe all y diafol gael effaith allanol ar Gristion. Er enghraifft gall cythreuliaid demtio a gormesu Cristion. Sgwenodd yr apostol Paul, "Ond dw i wedi gorfod dioddef poenau corfforol (rhag i mi droi'n greadur rhy falch am fod Duw wedi datguddio pethau rhyfeddol i mi). Mae Satan wedi cael anfon negesydd i'm ffistio i (2 Corinthiaid, pennod 12, adnod 7). Felly, roedd Paul yn dweud mewn gwirionedd, "Do, mae cythraul wedi ymosod arna i. Ond dyma'r newyddion da: Wnaiff Duw fyth roi mwy i ti na elli di ei drin."
Mae'r Beibl yn dweud wrthon ni yn Iago, pennod 2, adnod 19, " Rwyt ti'n credu mai un Duw sy'n bod, wyt ti? Wel da iawn ti! Ond cofia fod y cythreuliaid yn credu hynny hefyd, ac yn crynu mewn ofn!" Wrth gwrs, dydy'r ffaith dy fod yn credu rhywbeth ddim yn golygu dy fod wedi ymrwymo dy hun iddo. Mae'n amlwg fod cythreuliaid mewn gwrthryfel gyda Duw.
Roedd gorthrymder Paul wedi'i ganiatáu gan Dduw ond wedi'i drefnu gan Satan. Felly, falle bydd Duw'n caniatáu i'r diafol dy demtio neu dy boenydio mewn ryw ffordd. Ond cofia, Fydd e ddim yn caniatáu mwy na elli di ei ddioddef. Yr unig beth wnaiff stopio'r diafol yw pŵer Iesu Grist, ein hunig amddiffyniad. Ef yw'r un dŷn n i ei angen.
Hawlfraint © 2011 gan Harvest Ministries. Cedwir pob hawl. Yr adnodau wedi'i cymryd o beibl.net
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Paid gadael i brysurdeb a phwysau tymor y gwyliau ddwyn oddi arnat lawenydd a dathlu go iawn o'n Gwaredwr Iesu y Rhagfyr hwn! Derbynia anogaeth ddyddiol drwy ddefosiynau sbesial y Nadolig, y Parch Greg Laurie, wrth iddo fyfyrio ar wir ystyr y cyfnod mwyaf clodfawr o'r flwyddyn. Harvest Ministries gyda Greg Laurie
More