Anogaeth y Nadolig gyda Greg LaurieSampl

Paid methu'r Nadolig
"Daeth Crist i'n plith, O llawenhawn, a deued pawb ynghyd i'w dderbyn a'i gydnabod ef, i'w dderbyn a'i gydnabod ef."
-Daeth Crist in byd
Y Nadolig hwn, paid colli allan ar bwrpas dathlu'r Nadolig. Paid bod fel gŵr y llety fethodd Iesu am ei fod yn rhy brysur \\9gweler Luc 2). Gwna amser i'r Arglwydd. Paid bod fel y brenin Herod oedd â gormod o ofn i adael i Crist reoli ei fywyd (gweler Mathew 2). Rho dy galon i Grist. Yn olaf, paid byw dy fywyd fel yr Ymerodraeth Rufeinig am fethodd y Nadolig fod duwiau eraill wedi cymryd lle Crist yneu bywydau. Paid gadael i ddim arall gymryd lle addoli Iesu Grist.
Ar fore dydd Nadolig byddwn yn agor ein anrhegion, ond yn y pen draw bydd y cynnwrf yn dod i ben. Bydd yr anrheg oedd ar un tro mor werthfawr i ti yn mynd i gefn y cwpwrdd neu'n cael ei basio ymlaen i rywun arall. Bydd fersiwn mwy diweddar o ryw declyn, gyda mwy o gof, yn llai, a chyda mwy o gof, yn cyrraedd. Mewn amser byddi'n anghofio am dy anrhegion Nadolig. Ond, mae Duw wedi rhoi'r rhodd gorau posib i ni - y rhodd yn ei Fab, Iesu Grist.
Paid methu'r Nadolig eleni. Fel y gwnaeth Watts Handel sgwennu ar un tro, "“Let ev’ry heart prepare Him room.” neu fel dywed yr emyn yn Gymraeg "a deued pawb ynghyd
i’w dderbyn a’i gydnabod ef."
Hawlfraint © 2011 gan Harvest Ministries. Cedwir pob hawl. Yr adnodau wedi'i cymryd o beibl.net
Am y Cynllun hwn

Paid gadael i brysurdeb a phwysau tymor y gwyliau ddwyn oddi arnat lawenydd a dathlu go iawn o'n Gwaredwr Iesu y Rhagfyr hwn! Derbynia anogaeth ddyddiol drwy ddefosiynau sbesial y Nadolig, y Parch Greg Laurie, wrth iddo fyfyrio ar wir ystyr y cyfnod mwyaf clodfawr o'r flwyddyn. Harvest Ministries gyda Greg Laurie
More
Cynlluniau Tebyg

Dwyt ti Heb Orffen Eto

P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw

Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd

Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist

Coda a Dos Ati

Ymarfer y Ffordd

Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill

Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial

Hadau: Beth a Pham
