Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Anogaeth y Nadolig gyda Greg LaurieSampl

Christmas Encouragement By Greg Laurie

DYDD 15 O 25

Chwilwyr Go Iawn

Hanes Geni Iesu yw un o'r storïau enwocaf ac anwylaf, yn ôl pob tebyg yn un y mae'r rhan fwyaf o bobl nad ydyn nhw hyd yn oed yn gyfarwydd â'r stori Feiblaidd, wedi'i chlywed ar un adeg neu'r llall o'u bywydau. Ac yn sicr, y stori dŷn ni'n ei chlywed drosodd a throsodd pob Nadolig yw'r un am ymweliad y gwŷr doeth, gafodd eu harwain i ble anwyd y Brenin gan seren.

Oherwydd eu gwybodaeth am wyddoniaeth, mathemateg, hanes, a'r ocwlt, tyfodd eu dylanwad crefyddol a gwleidyddol nes iddynt ddod yn grŵp o gynghorwyr amlycaf a phwerus yn ymerodraethau Medo-Persia a Banabilon. Yn fwy na dim ond dewiniaid a chonsurwyr roedden nhw'n ddynion urddasol. Ac er nad oedden nhw'n frenhinoedd, roedden nhw'n ddynion o bwysigrwydd aruthrol.

Ond, er eu holl wybodaeth. doedd y dynion yma heb ddod o hyd i'r atebion roedden nhw wedi bod yn chwilio amdanyn nhw mewn bywyd. Fe allech chi ddweud eu bod yn chwilwyr. Dŷn ni'n gwybod eu bod nhw'n chwilwyr go iawn, am fod Duw wedi datgelu ei hun iddyn nhw mewn ffordd sbesial pan gawson nhw eu harwain gan seren 'r lle ble gallen nhw ffeindio Iesu: "Dyma'r seren yn mynd o'u blaen, nes iddi aros uwchben yr union fan lle roedd y plentyn. Roedden nhw wrth eu bodd! (Mathew, pennod, adnodau 9b i 10). Yna, fe wnaethon nhw roi eu hanrhegion o aur, thus a myrr iddo.
Mae Duw yn dweud wrthym yn Jeremeia, pennod 29, adnod 13. "Os byddwch chi'n chwilio amdana i o ddifri, â'ch holl galon, byddwch chi'n fy ffeindio i." Os wyt ti'n chwiliwr go iawn, os wyt ti eisiau adnabod y Duw go iawn, yna, bydd e'n datgelu ei hun i ti hefyd.

Hawlraint © 2011 ganHarvest MinistriesCedwir pob hawl. Yr adnodau wedi'i gymryd o beibl.net.

Ysgrythur

Diwrnod 14Diwrnod 16

Am y Cynllun hwn

Christmas Encouragement By Greg Laurie

Paid gadael i brysurdeb a phwysau tymor y gwyliau ddwyn oddi arnat lawenydd a dathlu go iawn o'n Gwaredwr Iesu y Rhagfyr hwn! Derbynia anogaeth ddyddiol drwy ddefosiynau sbesial y Nadolig, y Parch Greg Laurie, wrth iddo fyfyrio ar wir ystyr y cyfnod mwyaf clodfawr o'r flwyddyn. Harvest Ministries gyda Greg Laurie

More

Hoffem ddiolch i Harvest Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i www.harvest.org