Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Anogaeth y Nadolig gyda Greg LaurieSampl

Christmas Encouragement By Greg Laurie

DYDD 11 O 25

Pam wnaeth Iesu Ddod?

Mae hwn wedi bod yn adeg prysur o'r flwyddyn i bon pawb. I ni fel Cristnogion mae hi wedi bos yn ddathliad llawen o enedigaeth Iesu. Dŷn ni'n rhyfeddu at y ffaith fod Duw wedi darostwng i hun a chael ei eni mewn ogof. Ond pam waneth e ddod?

Yn gyntaf, daeth Iesu Grist i gyhoeddi newyddion da i'r rhai sy'n brifo'n ysbrydol, i bregethu'r newyddion da i ni.

Fe ddaeth i iacháu'r torcalonnus. Mae gwyddoniaeth feddygol wedi dod o hyd i ffyrdd o leihau a hyd yn oed gael gwared ar boen. Ond does dim gwellhad i dor calon.

Fe ddaeth Iesu i ryddhau pobl o afael pechod. Fe ddaeth Iesu i agor ein llygaid ysbrydol i'n hangen ysbrydol.

Fe ddaeth i godi'r rhai sydd wedi'u gwasgu gwasgu gan fywyd. aeth i roi bywyd toreithiog inni. Daeth Iesu i’n codi o deyrnas gorfforol y synhwyrau i’r deyrnas ysbrydol i ddangos inni fod mwy i fywyd.

Fe ddaeth i aberthu ei fywyd drosom. Dwedodd Iesu, "Wnes i ddim disgwyl i bobl eraill fy ngwasanaethu i, er mai fi ydy Mab y Dyn; des i fel gwas i aberthu fy mywyd er mwyn talu'r pris i ryddhau llawer o bobl. (Marc, pennod 10, adnod 45). Fe ddaeth i farw. Daeth Iesu Grist i'r byd i achub y rhai hynny ohonom sydd ar goll, yn union fel mae bugail yn chwilio am ddafad sydd ar goll.

Felly, ynghanol yr holl halibalŵ, papur lapio, uchelwydd, a goleuadau llachar lliwgar, gad i ni fynd at wraidd y mater. Mae'r Nadolig yn ymwneud â Duw'n anfon ei Fab i farw ar groes. Fe'i ganwyd i roi i ni fywyd cyflawn, i roi bywyd i ni sy'n werth ei fyw.

Hawlfraint © 2011 gan Harvest Ministries. Cedwir pob hawl. Yr adnodau wedi'i cymryd o beibl.net

Ysgrythur

Diwrnod 10Diwrnod 12

Am y Cynllun hwn

Christmas Encouragement By Greg Laurie

Paid gadael i brysurdeb a phwysau tymor y gwyliau ddwyn oddi arnat lawenydd a dathlu go iawn o'n Gwaredwr Iesu y Rhagfyr hwn! Derbynia anogaeth ddyddiol drwy ddefosiynau sbesial y Nadolig, y Parch Greg Laurie, wrth iddo fyfyrio ar wir ystyr y cyfnod mwyaf clodfawr o'r flwyddyn. Harvest Ministries gyda Greg Laurie

More

Hoffem ddiolch i Harvest Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i www.harvest.org