Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Anogaeth y Nadolig gyda Greg LaurieSampl

Christmas Encouragement By Greg Laurie

DYDD 10 O 25

Bywyd Sanctaidd mewn lle annuwiol


"Felly dyma'r angel yn dweud wrthi, 'Paid bod ofn, Mair. Mae Duw wedi dewis dy fendithio di'n fawr'." (Luc, pennod1,ond eto fe wnaeth un adnod 30)

Pe bai iesu'n cael ei eni heddiw, pa ddinas wyt ti'n tybio y byddai'n hanu ohoni?" Falle, Jerwsalem, Rhufain, Llundain, Paris, neu Efrog Newydd. Fydde ni ddim yn disgwyl i Iesu ddod o ryw le di-nod. Neu beth am hyn? Iesu o Las Vegas. Dydy hynny, ddim yn taro deuddeg rywsut yn nag ydy?!

Pan roedd pobl yng nghyfnod Iesu'n ei adnabod fel "Iesu o Nasareth" dyna oedd yn naturiol ddealladwy. Roedd yna arwyddocâd negyddol. Eto, yn y lle annuwiol hwn roedd yna ferch ifanc duwiol o'r enw Mair, yn byw, brofodd bod modd byw bywyd duwiol mewn lle annuwiol.
Yn ei ail lythyr mae Pedr yn disgrifio effaith y byd ar ddau grediniwr. Roedd y ddau'n byw mewn diwylliannau drygionus, ond eto fe wnaeth un ffynnu, tra na wnaeth y llall.

I ddechrau roedd Noa. Roedd y sefyllfa mor llygredig pan oedd e'n fyw fel bod Duw yn edifar o fod wedi creu dyn ac roedd yn barod i farnu'r ddaear. Eto,). ynghanol y cyfnod du hwn, "...roedd Noa wedi plesio'r Arglwydd" (Genesis, pennod 6, adnod 8) am fod ganddo berthynas dda gyda Duw. Roedd yn ddyn duwiol oedd yn byw mewn lle annuwiol, ac eto wnaeth e ddim cyfaddawdu erioed.

Wedyn, dyna i ti Lot oedd yn byw yn Sodom a Gomorra. O'i gymharu â Noa, roedd Lot fel ei fod wedi'i drechu. Doedd e ddim yn cytuno â beth oedd pobl yn ei wneud, ond wnaeth e ddim gwneud dim i newid y sefyllfa. Mae'r Beibl yn dweud ei fod yn byw yn eu plith nhw, a'i enaid cyfiawn yn gwaedu gyda'r hyn roedd yn ei weld a'i glywed gan eu gweithredoedd anghyfreithlon ac annuwiol. Roedd yn byw bywyd dan fygythiad. A phan ddaeth angel yr Arglwydd i'w achub o Sodom, gadawodd er ei anfodlonrwydd.

Pa un o'r ddauy ddyn yma wyt ti'n debycaf iddo: Noa neu Lot? Neu mewn geiriau eraill, wyt ti'n newid y diwylliant, neu yddy'r diwylliant yn dy newid di?

Brawddeg i grynhoi: A wyt ti'n byw bywyd duwiol mewn lle annuwiol?

Hawlfraint © 2011 Harvest Ministries. Cedwir pob hawl.
Yr adnodau wedi'i cymryd o beibl.net

Ysgrythur

Diwrnod 9Diwrnod 11

Am y Cynllun hwn

Christmas Encouragement By Greg Laurie

Paid gadael i brysurdeb a phwysau tymor y gwyliau ddwyn oddi arnat lawenydd a dathlu go iawn o'n Gwaredwr Iesu y Rhagfyr hwn! Derbynia anogaeth ddyddiol drwy ddefosiynau sbesial y Nadolig, y Parch Greg Laurie, wrth iddo fyfyrio ar wir ystyr y cyfnod mwyaf clodfawr o'r flwyddyn. Harvest Ministries gyda Greg Laurie

More

Hoffem ddiolch i Harvest Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i www.harvest.org