Anogaeth y Nadolig gyda Greg LaurieSampl
Rhodd Anhaeddiannol
Pwy sydd ar dy restr anrhegion y Nadolig hwn? Fel arfer, byddwn yn rhoi anrhegion i'n teulu a'n ffrindiau. Dŷn ni'n tueddu i roi anrhegion i bobl dŷn ni'n eu caru. Dŷn ni'n tueddu i roi anrhegion i bobl sy'n ein trin yn dda, pobl sy'n garedig ac ystyriol ohonon ni. Ac yn aml byddwn yn rhoi anrhegion oherwydd ein bod wedi derbyn anrhegion. Mae rhai ohonom hyd yn oed yn prynu anrhegion i'n hanifeiliaid anwes.
Fodd bynnag, fel arfer fyddwn ni ddim yn prynu anrhegion i'n gelynion? Dŷn ni ddim yn rhoi anrheg i'r unigolyn hwnnw sydd wedi ein henllibio yn ystod y flwyddyn. Dŷn ni ddim yn rhoi anrheg i'r cymydog blin sydd wastad yn cwyno. Dŷn ni ddim yn rhoi anrheg i rywun sydd wedi ceisio chwalu ein busnes ni. A dŷn ni ddim yn prynu anrheg i'r lleidr wnaeth ddwyn oddi arnon ni.
Ond meddylia am hyn: pan anfonodd Duw ei Fab, Iesu Grist, a rhoi i ni'r anrheg eithaf, fe roddodd e i ni pan oedden ni dal yn elynion. Mae'r Beibl yn dweud wrthom, "Ond dangosodd Duw i ni gymaint mae'n ein caru ni drwy i'r Meseia farw droson ni pan oedden ni'n dal i bechu yn ei erbyn!" (Rhufeiniaid, pennod 5, adnod 8). Wnaethon ni ddim byd i haeddu'r rhodd hwn. A dweud y gwir, yr hyn dŷn ni'n ei haeddu go iawn ydy barn, oherwydd dŷn ni, oll, wedi pechu yn erbyn Duw. Dŷn ni, oll, wedi croesi'r trothwy hwnnw.
Neges anhygoel y Nadolig yw, er gwaethaf ein pechodau, anfonodd Duw ei Fab i'n hachub. Yn y cafn bwydo anifeiliaid yn Bethlehem rhoddodd i ni rodd anhaeddiannol.
Hawlfraint © 2011 gan Harvest Ministries. Cedwir pob hawl. Yr adnodau wedi'i cymryd o beibl.net
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Paid gadael i brysurdeb a phwysau tymor y gwyliau ddwyn oddi arnat lawenydd a dathlu go iawn o'n Gwaredwr Iesu y Rhagfyr hwn! Derbynia anogaeth ddyddiol drwy ddefosiynau sbesial y Nadolig, y Parch Greg Laurie, wrth iddo fyfyrio ar wir ystyr y cyfnod mwyaf clodfawr o'r flwyddyn. Harvest Ministries gyda Greg Laurie
More