Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Anogaeth y Nadolig gyda Greg LaurieSampl

Christmas Encouragement By Greg Laurie

DYDD 8 O 25

Arafa, Tala sylw, Bydd lonydd..

Mae'r Nadolig yn gallu bod yn gyfnod anodd i bobl am nifer o resymau. Un rheswm ydy, nad ydy'r Nadolig wastad yr hyn roedden ni'n ei ddisgwyl. I ddweud y gwir, felly mae hi gan amlaf. Fedri di fod yn siomedig iawn. Mae llawer o bobol yn troi at alcohol a chyffuriau, ac mae ymdrechion i gyflawni hunanladdiad yn cynyddu adeg hyn o'r flwyddyn.

Weithiau mae yna dristwch dwfn adeg y Nadolig oherwydd problemau teuluol. Falle fod dy rieni wedi ysgaru. Falle bod dy wraig neu ŵr wedi dy adael. Y llynedd roeddet ti gyda nhw ac eleni rwyt ar ben dy hun. Neu falle dy fod wedi colli un oedd yn annwyl i ti. Roedden nhw yna llynedd ond eleni dydyn nhw ddim. Mae yna boen dwfn.

Tra bo rhai yn cael hwyl adeg y Nadolig, mae eraill mewn poen. Mae angen iddyn nhw mai'r neges go iawn ynghanol yr holl ddathlu yw fod Duw wedi dod i'r byd a'i eni mewn ystabl, ac yna aeth i'r groes a marw dros bechodau'r byd. Dyna'r neges nad ydyn ni eisiau ei golli. Cafodd ei eni er mwyn i ni gael byw. Aeth i'r groes, marw, ac atgyfodi, a nawr mae e'n sefyll wrth ddrws win bywydau ac yn curo.

Gad i ni beidio dathlu penblwydd Iesu, a'i rwystro rhag dod i'w barti ei hun. Gad i ni beidio dweud na wrtho am ein bod yn rhy brysur am fod gynnon ni ormod yn digwydd yn ein bywydau. Agor ddrws dy fywyd a'i adael i mewn.

Weithiau falle y byddi di'n meddwl ble mae Duw yn dy fywyd. Rwyt ti'n meddwl ei fod wedi dy adael o bosib. Naddo, dydy e ddim wedi, mae e yna. Immanuel yw e - y mae Duw gyda ni. Yn halibalŵ y tymor, gad i ni gofio arafu, talu sylw, a gwybod mai Duw yw e.

Hawlfraint © 2011 gan Harvest Ministries. Cedwir pob hawl. Yr adnodau wedi'i cymryd o beibl.net
Diwrnod 7Diwrnod 9

Am y Cynllun hwn

Christmas Encouragement By Greg Laurie

Paid gadael i brysurdeb a phwysau tymor y gwyliau ddwyn oddi arnat lawenydd a dathlu go iawn o'n Gwaredwr Iesu y Rhagfyr hwn! Derbynia anogaeth ddyddiol drwy ddefosiynau sbesial y Nadolig, y Parch Greg Laurie, wrth iddo fyfyrio ar wir ystyr y cyfnod mwyaf clodfawr o'r flwyddyn. Harvest Ministries gyda Greg Laurie

More

Hoffem ddiolch i Harvest Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i www.harvest.org