Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Anogaeth y Nadolig gyda Greg LaurieSampl

Christmas Encouragement By Greg Laurie

DYDD 7 O 25

Wyt ti wedi colli golwg o'r Iesu?

Ar un adeg pan oeedd Iesu yn ddeuddeg oed, aeth ar goll. Collodd Mair a Joseff olwg arno, a chymrodd dridiau o chwilio i ddod o hyd iddo eto. Roedden nhw eei bod yn Jerwsalem i ddathlu'r Pasg, ac wrth ddychwelyd adre doedd dim sôn amdano. Ond dyma beth sy'n ddiddorol: ro'n nhw wedi teithio am ddiwrnod cyfan cyn iddyn nhw ei fethu. Nid colli eu cariad ato wnaethon nhw. Dim ond ei golli wnaethon nhw.

A all hyn ddigwydd i ni? Yr ateb yw, gall. Mae hi'n hollol bosib mynd drwy awr, diwrnod, wythnos heb feddwl unwaith am Iesu. (Hynny yw, nes nod argyfwng yn digwydd.) Dyma'r peth hawsaf i wneud adeg y Nadolig. Dŷn ni mor brysur yn dathlu genedigaeth Crist fel ein bod yn gallu anghofio am Grist. Dyma'r adeg o'r flwyddyn pan mae gynnon ni bob math o gyfrifoldebau. A gallwn yn hawdd iawn anghofio am unig Fab Duw.

Un ffordd dŷn ni'n colli Iesu yw pan fydd pethau anhanfodol yn disodli pethau hanfodol. Dŷn ni mor brysur, yn amlach na pheidio, ein bywydau ysbrydol sy'n dioddef. does gynnon ni ddim amser i ddarllen Gair Duw. does gynnon ni ddim amser i weddïo, hyd yn oed am foment. Fedrwn ni ddim fforddio rhoi dim byd i Dduw am fod gynnon ni gymaint i'w brynu. Dŷn ni'n caniatáu i bethau anhanfodol ddisodli pethau hanfodol.

Pryd bynnag y bydda i'n colli rhywbeth dw i'n mynd yn ôl dros fy nghamau. Ble oedd gen i e ddiwethaf? Dw i'n mynd yn ôl i'r lle hwnnw a dyna ble y mae.

Os wyt ti'n gweld dy fod wedi colli Iesu ym mhrysurdeb bywyd, yna, rhaid iti fynd yn ôl i ble oeddet ti o'r blaen. A'r newydd da ydy, er ein bod ni yn colli golwg ar Iesu, dydy e ddim wedi colli golwg arnom ni.

Hawlfraint © 2011 gan Harvest Ministries. Cedwir pob hawl. Yr adnodau wedi'i cymryd o beibl.net

Ysgrythur

Diwrnod 6Diwrnod 8

Am y Cynllun hwn

Christmas Encouragement By Greg Laurie

Paid gadael i brysurdeb a phwysau tymor y gwyliau ddwyn oddi arnat lawenydd a dathlu go iawn o'n Gwaredwr Iesu y Rhagfyr hwn! Derbynia anogaeth ddyddiol drwy ddefosiynau sbesial y Nadolig, y Parch Greg Laurie, wrth iddo fyfyrio ar wir ystyr y cyfnod mwyaf clodfawr o'r flwyddyn. Harvest Ministries gyda Greg Laurie

More

Hoffem ddiolch i Harvest Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i www.harvest.org