Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Anogaeth y Nadolig gyda Greg LaurieSampl

Christmas Encouragement By Greg Laurie

DYDD 6 O 25

Pam Geni Iesu o wyryf?

Dwedodd Larry King un tro, pe bai e'n cael dewis un person i'w gyfweld o gwrs hanes, bydde e'n ei ddewis Iesu Grist. Dwedodd King yr hoffai ofyn i Iesu, "os oedd e wedi'i eni o wyryf, go iawn." Ychwanegodd, "Bydde'r ateb i'r cwestiwn yna'n diffinio hanes imi." Mae Larry King yn sylweddoli fod yr enedigaeth o wyryf yn allweddol.

Mae hwn yn ran hanfodol o athrawiaeth Gristnogol. Os na chafodd Crist ei genhedlu'n y groth o'r Ysbryd Glân, os mai ei dad biolegol oedd Joseff, yna bydde e'n bechadur. Ac os oedd e'n bechadur doedd ei farwolaeth ar y groes ddim yn gwneud yn iawn am fy mhechodau i na'th rai di.

#y ffaith ydy, am fod Iesu wedi'i genhedlu'n oruwchnaturiol yng nghroth Mair, roedd e'n Dduw ac yn ddyn. Dwedodd Iesu, "Dyna pam ddwedais i y byddwch chi'n marw yn eich pechod – os wnewch chi ddim credu mai fi ydy e, byddwch chi'n marw yn eich pechod" (Ioan, pennod 8, adnod 24). Mewn geiriau eraill, " os nad wyt ti'n credu mai fi yw Duw, dwyt ti ddim yn grediniwr mewn gwirionedd."

FI yw datganiad Duw ei hun amdano'i hun. Pan oedd Moses eisiau gwybod pwy oedd wedi'i anfon atyn nhw, dwedodd duw wrtho, "FI YDY'R UN YDW I....Rhaid iti ddweud wrth bobl Israel, 'Mae FI YDY, wedi fy anfon i atoch chi'."" (Exodus, pennod 3, adnod 14).

Dyna pam mae'r enedigaeth o wyryf yn ddysgeidiaeth mor hanfodol. Doedd Crist ddim yn Dduw am ei fod wedi'i eni o wyryf, roedd e wedi'i eni o wyryf am ei fod e'n Dduw.

Hawlfraint © 2011 gan Harvest Ministries. Cedwir pob hawl. Yr adnodau wedi'i cymryd o beibl.net

Ysgrythur

Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Christmas Encouragement By Greg Laurie

Paid gadael i brysurdeb a phwysau tymor y gwyliau ddwyn oddi arnat lawenydd a dathlu go iawn o'n Gwaredwr Iesu y Rhagfyr hwn! Derbynia anogaeth ddyddiol drwy ddefosiynau sbesial y Nadolig, y Parch Greg Laurie, wrth iddo fyfyrio ar wir ystyr y cyfnod mwyaf clodfawr o'r flwyddyn. Harvest Ministries gyda Greg Laurie

More

Hoffem ddiolch i Harvest Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i www.harvest.org