Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Anogaeth y Nadolig gyda Greg LaurieSampl

Christmas Encouragement By Greg Laurie

DYDD 5 O 25

Mae Duw gyda ni

Emaniwel: Mae Duw gyda ni - Daeth Duw atom. Sôn am syfrdanol. Hanfod y ffydd a bywyd Cristnogol yw e mewn gwirionedd. Yn y bôn, mae pob ideoleg grefyddol arall yn dweud wrthyt fod yn rhaid i ti wneud rhywbeth: Gwna hyn, ac fe gei di heddwch mewnol...Gwna hyn a byddi'n cyrraedd nirvana...Gwna hyn a falle byddi'n mynd i'r nefoedd. Ond mae Cristnogaeth bod e eisoes wedi'i wneud drosot ti ar y Groes, wedi'i dalu yng ngwaed Iesu Grist.

Dydy bod yn Gristion ddim yn golygu dim ond dilyn ryw gred, mae e am gael Crist ei hun yn byw ynddo ti a thrwyddo ti, gan roi y nerth i ti fod y dyn neu'r ddynes y galwodd ti i fod. Dwedodd Iesu, "Gallwch chi fod yn siŵr y bydda i gyda chi bob amser, nes bydd diwedd y byd wedi dod" (Mathew, pennod 28, adnod 10) a "Wna i byth eich siomi chi, na throi fy nghefn arnoch chi" Hebreaid, pennod 13, adnod 5).

Neges y Nadolig yw mae duw gyda ni. Mae hynny'n bwysig i'w wybod, yn arbennig felly yn ystod y cyfnodau hynny pan dŷn ni'n mynd drwy gyfnodau anodd. Dwedodd y Salmydd, "Petawn i'n hedfan i ffwrdd gyda'r wawr ac yn mynd i fyw dros y môr, byddai dy law yno hefyd, i'm harwain; byddai dy law dde yn gafael yn dynn ynof fi (Salm 139, adnodau 9-10). Mae'n hyfryd i wybod fod Duw gyda ti, ble bynnag wyt ti'n mynd.

Dydy'r Beibl byth yn dysgu ni na fyddwn ni'n cael bywydau di-broblem fel dilynwyr Crist. Ond mae'r Beibl yn dysgu na fyddwn fyth ar ben ein hunain. Ac oherwydd hynny does dim rhaid i ni ofni. Fel ddwedodd Ray Stedman, "The chief mark of the Christian ought to be the absence of fear and the presence of joy.”

Dyna ydy'r neges mae angen i'r byd llawn pechod ei glywed: Emaniwel: Mae Duw gyda ni.

Hawlfraint © 2011 gan Harvest Ministries. Cedwir pob hawl. Yr adnodau wedi'i cymryd o beibl.net

Ysgrythur

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Christmas Encouragement By Greg Laurie

Paid gadael i brysurdeb a phwysau tymor y gwyliau ddwyn oddi arnat lawenydd a dathlu go iawn o'n Gwaredwr Iesu y Rhagfyr hwn! Derbynia anogaeth ddyddiol drwy ddefosiynau sbesial y Nadolig, y Parch Greg Laurie, wrth iddo fyfyrio ar wir ystyr y cyfnod mwyaf clodfawr o'r flwyddyn. Harvest Ministries gyda Greg Laurie

More

Hoffem ddiolch i Harvest Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i www.harvest.org