Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Anogaeth y Nadolig gyda Greg LaurieSampl

Christmas Encouragement By Greg Laurie

DYDD 4 O 25

Gad i ni Addoli

Mae'r gair am Nadolig yn Saesneg sef "Christmas" wedi'i mynd yn ddi-ystyr, ei ddwyn oddi arnom, ei daflu i'r baw. ei roi nôl i ni, heb ei bŵer. Mae rhai yn hoffi defnyddio'r term mwy cyfforddus i rai, fel "Gwyliau Hapus". Ond y gwaethaf imi yn Saesneg yw "Merry Xmas", heb unrhyw syniad o gwbl o beth mae'r Nadolig yn ei olygu go iawn.

Dw i'n meddwl y dylen ni ganslo'r fersiwn o Nadolig sy'n llawn cynnwrf a gweithgareddau gwyllt sy'n arwain at flinder, y fersiwn sy'n prin ddim sylw i Grist. Dylen ni ganslo'r Nadolig, ac yn lle, ddathlu geni Iesu Grist. Dw i'n dal i gredu yn y Nadolig, ond nid y Nadolig mae ein diwylliant ni'n gredu ynddo. Dw i'n credu yn neges go iawn y Nadolig. Fe allai fod y Nadolig gorau yn dy fywyd.

Prif neges y Nadolig yw hyn: Mae Duw gyda ni. Mae Eseia, pennod 7, adnod 14 yn dweud, "Felly, mae'r Meistr ei hun yn mynd i roi arwydd i chi! Edrychwch, bydd y ferch ifanc yn feichiog, ac yn cael mab – a bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel."

Felly nid neges y tymor yw, "Gad iddi fwrw eira" neu "Gad i ni siopa." Neges y Nadolig go iawn ydy, "Gad i ni addoli." Dyna wnaeth y gwŷr doeth. A dyna ddylen ninnau fod yn ei wneud hefyd.

Hawlfraint © 2011 gan Harvest Ministries. Cedwir pob hawl. Yr adnodau wedi'i cymryd o beibl.net

Ysgrythur

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Christmas Encouragement By Greg Laurie

Paid gadael i brysurdeb a phwysau tymor y gwyliau ddwyn oddi arnat lawenydd a dathlu go iawn o'n Gwaredwr Iesu y Rhagfyr hwn! Derbynia anogaeth ddyddiol drwy ddefosiynau sbesial y Nadolig, y Parch Greg Laurie, wrth iddo fyfyrio ar wir ystyr y cyfnod mwyaf clodfawr o'r flwyddyn. Harvest Ministries gyda Greg Laurie

More

Hoffem ddiolch i Harvest Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i www.harvest.org