Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Anogaeth y Nadolig gyda Greg LaurieSampl

Christmas Encouragement By Greg Laurie

DYDD 3 O 25

Addewid y Nadolig

Dw i wedi credu yn addewid y Nadolig erioed. Mae yna rhywbeth sy'n sbesial iawn, hyfryd, a hyd yn oed hudolus (yn y defnydd gorau o'r gair yna) adeg yma o'r flwyddyn. A mae hynny'n mynd yn ôl i'm mhlentyndod cynnar.

Gyda'r Nadolig fe ddaw i ni synnwyr o ryfeddod, harddwch a disgwyliad. Dŷn ni'n edrych ymlaen i gael bod gyda rhai dŷn ni'n garu, teulu a ffrindiau, a bwyta bwyd anhygoel. Mae hi'n hamser rhyfeddol o'r flwyddyn. Mae hi hefyd yn gyfnod sy'n cael ei nodi gan ddiffyg troeon gwael. Mae yna garedigrwydd y bydd pobl yn ei ddangos at ei gilydd, hyd yn oed dieithriaid.

Ond y cwestiwn ydy: Ydy'r Nadolig yn cadw at ei addewidion? Mae e'n gwneud weithiau - hwn t ac yma. Ond am y rhan fwyaf o amser, dydy'r Nadolig ddim yn ateb y gofyn. I ddweud y gwir, yr hyn mae e'n wneud yw creu lot o anhawster. Os wyt ti'n ddyn bydd dy bwysedd gwaed yn codi'n ddramatig iawn ,adeg yma o'r flwyddyn. Gwnaed ymchwil gan seicolegydd Prydeinig ddarganfyddodd fod siopa Nadolig yn beryglus i iechyd dynion oherwydd effeithiadau pwysedd gwaed yn cynyddu. Datgelodd yr un ymchwil n ad oedd unrhyw newid ym mhwysedd gwaed merched gan yr un arferiad siopa.

Felly, ar ei waethaf, beth yw'r Nadolig? Mae'n ddigwyddiad dwys, masnachol, gwag, blinedig a drud iawn sy'n llusgo ymlaen am fisoedd ar y tro. Ac ar ei orau, beth yw'r Nadolig? Mae e'n ragolwg rywbeth i ddod: yr harddwch...y gerddoriaeth gwych...yr angylion addolgar...y cariad...y cynhesrwydd...yr addewid...y gobaith. Oherwydd, yn ei hanfod, addewid yw'r Nadolig. Mae'n addewid o'r hyn sydd i ddod.

Hawlfraint © 2011 gan Harvest Ministries. Cedwir pob hawl. Yr adnodau wedi'i cymryd o beibl.net
Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Christmas Encouragement By Greg Laurie

Paid gadael i brysurdeb a phwysau tymor y gwyliau ddwyn oddi arnat lawenydd a dathlu go iawn o'n Gwaredwr Iesu y Rhagfyr hwn! Derbynia anogaeth ddyddiol drwy ddefosiynau sbesial y Nadolig, y Parch Greg Laurie, wrth iddo fyfyrio ar wir ystyr y cyfnod mwyaf clodfawr o'r flwyddyn. Harvest Ministries gyda Greg Laurie

More

Hoffem ddiolch i Harvest Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i www.harvest.org