Anogaeth y Nadolig gyda Greg LaurieSampl
Lapio Syml
Mae rhai bobl yn mynd i drafferth mawr i lapio anrheg Nadolig. Byddan nhw'n creu pecynnau addurnedig hyfryd. Does gen i ddim dawn lapio o gwbl. Mae fy anrhegion i'n erchyll. I ddynion, mae lapio yn ddim byd ond rhwystr i wneud rhywbeth dŷn ni eisiau ei wneud go iawn. Does ots gynnon ni am bapur lapio. Dŷn ni ddim ond eisiau gwybod beth sydd tu mewn i'r pecyn.
Wnaeth rhodd Duw ddim dod atom wedi'i lapio'n goeth. Fe ddaeth wedi'i lapio'n syml. Ganwyd Iesu yn Bethlehem mewn amgylchedd gostyngedig. Meddylia pa mor anodd oedd y daith o Nasareth i Bethlehem i Mair a Joseff. Yna, pan gyrhaeddon nhw roedd rhaid iddyn nhw aros mewn stabl neu ogof ble roedd anifeiliaid yn cael eu cadw. Cafn bwydo anifeiliaid oedd y preseb. A dw i'n meddwl ei fod yn le oer iawn gyda'r nos. Dw i'n meddwl ei fod yn arogli fel unrhyw stabl arall. Roedd yn amgylchedd budr iawn i eni plentyn i'r byd.
Dw i ddim yn dweud hynny i fychanu harddwch y Nadolig. Yn hytrach, dw i'n ei ddweud i ychwanegu at harddwch yr hyn wnaeth Duw drosom. Daeth Creawdwr y Bydysawd, y Duw ddeffrodd y greadigaeth, a darostwng ei hun mewn babi bach, wedi'i eni mewn stabl yn Bethlehem.
Chafodd o mo'i roi i orwedd yn y preseb mewn cynfasau sidan, ond mewn cadachau. Chafodd o mo'i roi i orwedd mewn gwely o aur, fyddai wedi gweddu i frenin, ond mewn cafn i fwydo anifeiliaid. Cymrodd Iesu ei le mewn cafn bwydo anifeiliaid fel y gallwn ni gael cartref yn y nefoedd.
Hawlfraint © 2011 gan Harvest Ministries. Cedwir pob hawl. Yr adnodau wedi'i cymryd o beibl.net
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Paid gadael i brysurdeb a phwysau tymor y gwyliau ddwyn oddi arnat lawenydd a dathlu go iawn o'n Gwaredwr Iesu y Rhagfyr hwn! Derbynia anogaeth ddyddiol drwy ddefosiynau sbesial y Nadolig, y Parch Greg Laurie, wrth iddo fyfyrio ar wir ystyr y cyfnod mwyaf clodfawr o'r flwyddyn. Harvest Ministries gyda Greg Laurie
More