Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eliseus: Hanes Ffydd AnhygoelSampl

Elisha: A Tale Of Ridiculous Faith

DYDD 13 O 13

Mae hanes marwolaeth Eliseus yn 2 Brenhinoedd, pennod 13, adnodau 10 i 21 ac mae e wedi cadw'r wyrth mwyaf gwrthun tan y diwedd. Ar ôl i Eliseus farw a chael ei gladdu mae criw o Moabiaid yn ymosod ar Israel pan mae yna Israeliaid ar ganol claddu rhyw ddyn. Roedd yr ymosodiad yn annisgwyl a dyma nhw'n ymateb drwy daflu corff y dyn marw i mewn i fedd Eliseus. Pan gyffyrddodd corff y dyn ag esgyrn Eliseus, daeth y dyn yn Eliseus, daeth y dyn yn ôl yn fyw. Hyd yn oed mewn marwolaeth daliodd dduw ati i ddefnyddio Eliseus fel sianel i helpu rhai mewn angen a gwneud pethau anhygoel ym mywyd eraill. Roedd Eliseus yn broffwyd oedd â'i ffydd, ufudd-dod, tosturi a dewrder yn wrthun. Pa un ai oedd wrth wneud i ben bwyell arnofio, ffyddlondeb i alwad Elias, neu ddod â dyn yn ôl o farw'n fyw ar ôl iddo farw ei hun, mae Eliseus, heb os nac onibai'n un o'r cymeriadau mwyaf cofiadwy yn y Beibl.

Mae'n bryd i ni fod yn wrthun fel Eliseus a stopio dal yn ôl. Mae'n amser dechrau cymryd risgiau a gwneud penderfyniadau na fydd y byd, falle'n, eu deall. Mae Eliseus yn enghraifft perffaith o sut olwg allai fod ar fywyd pan wyt yn penderfynu bod yn rhydd a byw gyda ffydd gwrthun. Pan wyt yn rhoi penrhyddid i Dduw, mae e'n gallu gwneud pethau syfrdanol yn dy fywyd na allet fyth ei ddychmygu. Mae'r cwbl i fyny i ti. Pa gamau sydd raid i ti eu cymryd i gael y math o ffydd gwrthun oedd gan Eliseus?
Diwrnod 12

Am y Cynllun hwn

Elisha: A Tale Of Ridiculous Faith

:Eliseus yw un o'r pobl mwyaf diddorol yng ngair Duw. Roedd- yn broffwyd gyda ffydd a gwyrthiau sy'n ymddangos yn anhygoel. Yn ystod y cynllun 13 diwrnod hwn byddi'n darllen drwy fywyd Eliseus gan ddysgu o'i esiampl sut y gallai bywyd fod pe byddet yn llwyr ymddiried a byw gyda ffydd anhygoel.

More

We would like to thank Pastor Craig Groeschel and Life.Church for providing this plan. For more information, please visit: www.Life.Church