Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eliseus: Hanes Ffydd AnhygoelSampl

Elisha: A Tale Of Ridiculous Faith

DYDD 11 O 13

Gan ddechrau yn 2 Brenhinoedd, pennod 6, adnod 24 a pharhau drwy bennod 7, dŷn ni'n ymweld â themâu cyffredin ym mywyd Eliseus ble mae Duw yn defnyddio Eliseus, i ateb gofynion ei bobl. Yn y darn hwn mae'r Israeliaid yn dioddef o newyn gan fod y brifddinas dan ymosodiad y Syriaid. Mae Eliseus yn proffwydo y bydd Duw yn darparu gymaint o fwyd fel ei bod yn ddiwerth oherwydd bod gymaint ohono. Canlyniad rhyfedd arall yw fod Eliseus a'r Israeliaid yn darganfod bod y Syriaid wedi diflannu ac yn wrthun, adael y cwbl o'u bwyd a'u cyflenwadau. Unwaith eto, mae Duw yn ateb anghenion yr Israeliaid. Mae Duw yna i'w bobl ac mae e yna i ti.

Meddylia am y cyfnodau roeddet ti mewn angen. Meddylia am y ffordd mae e wedi dangos ei hun yn dy fywyd ac ateb dy anghenion, fel wnaeth gyda'r Israeliaid. Mae Philipiaid, pennod 4, adnod 9 yn ateb dy holl ofynion yn ôl cyfoeth ei ogoniant yng Nghrist Iesu. Roedd yr addewid yna'n wir i'r Israeliaid filoedd o flynyddoedd yn ôl ac yn parhau i fod yn wir heddiw, i ti. Fydd Duw ddim yn dy adael a bydd yn ateb dy anghenion, yn fach a mawr. Ym mha ffyrdd wyt ti wedi gweld Duw yn ateb dy anghenion yn gyson drwy dy fywyd?
Diwrnod 10Diwrnod 12

Am y Cynllun hwn

Elisha: A Tale Of Ridiculous Faith

:Eliseus yw un o'r pobl mwyaf diddorol yng ngair Duw. Roedd- yn broffwyd gyda ffydd a gwyrthiau sy'n ymddangos yn anhygoel. Yn ystod y cynllun 13 diwrnod hwn byddi'n darllen drwy fywyd Eliseus gan ddysgu o'i esiampl sut y gallai bywyd fod pe byddet yn llwyr ymddiried a byw gyda ffydd anhygoel.

More

We would like to thank Pastor Craig Groeschel and Life.Church for providing this plan. For more information, please visit: www.Life.Church