Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eliseus: Hanes Ffydd AnhygoelSampl

Elisha: A Tale Of Ridiculous Faith

DYDD 9 O 13

Roedd bywyd Eliseus yn ymddangos yn llawn digwyddiadau gwrthun. Mae un o'r rhyfeddaf i'w weld yn 2 Brenhinoedd, pennod 6, adnodau 1 i 7. Yn y darn hwn dŷn ni'n gweld grŵp o broffwydi'n defnyddio i dorri coed i lawr fydd yn cael eu defnyddio i adeiladu cartrefi newydd. Mae un o'r proffwydi'n colli pen y bwyell yn y dŵr ac mae e'n poeni am mai wedi'i fenthyg oedd e. Mae Eliseus yn ymateb drwy daflu cangen o bren i'r dŵr, ble ddisgynnodd pen y fwyell. Mae pen y fwyell yn codi i'r wyneb ar unwaith. Pan wyt yn darllen y stori hon gyntaf mae e'n edrych nad oes unrhyw bwrpas iddi, ond mae yna lot i ddysgu o'r stori. Mae Duw yn poeni am beth rwyt wedi'i golli. Does dim nad yw'n rhy fach i Dduw, hyd yn oed colli pen bwyell.

Beth wyt ti wedi'iu golli? Wyt ti wedi colli bendith, perthynas, heddwch, diogelwch ariannol, dy enw da, neu rywbeth arall? Y newyddion da ydy, mae Duw yn poeni gymaint am beth bynnag rwyt wedi'i golli, fel ei fod yn gallu dy helpu. Mae Duw yn gallu dod o hyd beth wnest ti golli drwy ddechrau yn y lle ble gollais ti e. Dos yn ôl i ble aeth pethau o'i le a gad i Dduw dy helpu nôl ar y llwybr cywir. Falle bod angen i ti stopio gwneud rywbeth a dechrau gwneud rywbeth gwahanol. Dydy pen dy fwyell ddim ar goll, mae yn y fan y gadewaist ti hi. Gall Duw yn gallu herio disgyrchiant a'i rhoi yn ôl i ti. Beth wyt ti wedi'i golli, yr wyt ti angen Duw i'th helpu i ='w adennill? Sut fyddi di'n mynd ati i wneud hyn?
Diwrnod 8Diwrnod 10

Am y Cynllun hwn

Elisha: A Tale Of Ridiculous Faith

:Eliseus yw un o'r pobl mwyaf diddorol yng ngair Duw. Roedd- yn broffwyd gyda ffydd a gwyrthiau sy'n ymddangos yn anhygoel. Yn ystod y cynllun 13 diwrnod hwn byddi'n darllen drwy fywyd Eliseus gan ddysgu o'i esiampl sut y gallai bywyd fod pe byddet yn llwyr ymddiried a byw gyda ffydd anhygoel.

More

We would like to thank Pastor Craig Groeschel and Life.Church for providing this plan. For more information, please visit: www.Life.Church