Dywedodd y proffwydi wrth Eliseus, “Edrych yn awr, y mae'r lle yr ydym yn byw ynddo gyda thi yn rhy gyfyng inni. Gad inni fynd at yr Iorddonen a chymryd oddi yno drawst bob un i wneud lle y gallwn fyw ynddo.” Dywedodd yntau, “Ewch.” Ond meddai un, “Bydd dithau fodlon i ddod gyda'th weision.” Ac atebodd, “Dof.” Yna aeth gyda hwy at yr Iorddonen i dorri coed. Tra oedd un yn cwympo trawst, syrthiodd ei fwyell i'r dŵr, a dywedodd, “Gwae fi, syr; un fenthyg oedd hi.” Dywedodd gŵr Duw, “Ple y syrthiodd?” Dangosodd y lle iddo; torrodd yntau ffon a'i thaflu yno, a nofiodd y fwyell. Dywedodd, “Cod hi.” Ac estynnodd ei law a'i chymryd.
Darllen 2 Brenhinoedd 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Brenhinoedd 6:1-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos