Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Brenhinoedd 6

6
Adfer y Fwyell
1Dywedodd y proffwydi wrth Eliseus, “Edrych yn awr, y mae'r lle yr ydym yn byw ynddo gyda thi yn rhy gyfyng inni. 2Gad inni fynd at yr Iorddonen a chymryd oddi yno drawst bob un i wneud lle y gallwn fyw ynddo.” Dywedodd yntau, “Ewch.” 3Ond meddai un, “Bydd dithau fodlon i ddod gyda'th weision.” Ac atebodd, “Dof.” 4Yna aeth gyda hwy at yr Iorddonen i dorri coed. 5Tra oedd un yn cwympo trawst, syrthiodd ei fwyell i'r dŵr, a dywedodd, “Gwae fi, syr; un fenthyg oedd hi.” 6Dywedodd gŵr Duw, “Ple y syrthiodd?” Dangosodd y lle iddo; torrodd yntau ffon a'i thaflu yno, a nofiodd y fwyell. 7Dywedodd, “Cod hi.” Ac estynnodd ei law a'i chymryd.
Gorchfygu Byddin Syria
8Pan oedd brenin Syria am ryfela yn erbyn Israel, ymgynghorodd â'i weision a phenderfynu, “Yn y fan a'r fan y bydd fy ngwersyll.” 9Ac anfonodd gŵr Duw at frenin Israel a dweud, “Gwylia rhag mynd heibio'r fan a'r fan, oherwydd y mae'r Syriaid yn mynd i lawr yno.” 10Ac anfonodd brenin Israel ddynion i'r fan a ddywedodd gŵr Duw, ac felly y rhybuddiwyd ef i fod yn wyliadwrus, dro ar ôl tro.
11Cynhyrfodd brenin Syria am hyn a galwodd ei weision ato a dweud wrthynt, “Oni ddywedwch wrthyf pwy ohonom sydd o blaid brenin Israel?” 12Ond dywedodd un o'i weision, “Nid oes neb, f'arglwydd frenin; Eliseus, y proffwyd o Israel, sy'n dweud wrth frenin Israel y geiriau yr wyt ti'n eu llefaru yn d'ystafell wely.” 13Dywedodd yntau, “Ewch ac edrychwch ble y mae ef, er mwyn i mi anfon i'w ddal.” 14Dywedwyd wrtho, “Y mae yn Dothan.” Ac anfonodd yno feirch a cherbydau a byddin gref. Daethant liw nos ac amgylchu'r dref.
15Pan gododd gwas gŵr Duw yn y bore bach, a mynd allan, dyna lle'r oedd byddin a meirch a cherbydau o amgylch y dref, ac meddai, “O feistr, beth a wnawn ni?” 16Dywedodd yntau, “Paid ag ofni; y mae mwy gyda ni nag sydd gyda hwy.” 17Yna gweddïodd Eliseus, “ARGLWYDD, agor ei lygaid, iddo weld.” Ac agorodd yr ARGLWYDD lygaid y llanc, ac yna fe welodd y mynydd yn llawn meirch a cherbydau tanllyd o gwmpas Eliseus. 18Pan ddaeth y Syriaid i lawr ato, gweddïodd Eliseus ar yr ARGLWYDD a dweud, “Taro'r bobl hyn yn ddall,” a thrawyd hwy'n ddall, yn ôl gair Eliseus. 19A dywedodd Eliseus wrthynt, “Nid dyma'r ffordd; nid hon yw'r dref. Dilynwch fi, ac af â chwi at y gŵr yr ydych yn ei geisio.” Ac arweiniodd hwy i Samaria.
20Wedi iddynt gyrraedd Samaria, dywedodd Eliseus, “ARGLWYDD, agor lygaid y bobl hyn, iddynt weld.” Pan agorodd yr ARGLWYDD eu llygaid a hwythau'n gweld, yno yng nghanol Samaria yr oeddent. 21A phan welodd brenin Israel hwy, gofynnodd i Eliseus, “Fy nhad, a gaf fi eu lladd bob un?” 22Atebodd yntau, “Na, paid â'u lladd. A fyddit ti'n lladd y rhai a gymerit yn gaeth trwy dy gleddyf a'th fwa? Rho fara a dŵr o'u blaenau, iddynt gael bwyta ac yfed a mynd yn ôl at eu meistr.” 23Arlwyodd wledd fawr iddynt, ac wedi iddynt fwyta ac yfed, gollyngodd hwy. Aethant at eu meistr, ac ni ddaeth byddinoedd Syria rhagor i dir Israel.
Gwarchae ar Samaria
24Ymhen amser, cynullodd Ben-hadad brenin Syria ei holl fyddin a mynd i warchae ar Samaria. 25Yna bu newyn mawr yn Samaria, a'r gwarchae mor dynn nes bod pen asyn yn costio pedwar ugain o siclau arian, a chwarter pwys o dail colomen bum sicl. 26Fel yr oedd brenin Israel yn cerdded ar y mur, gwaeddodd gwraig arno, “F'arglwydd frenin, helpa fi!” 27Ond dywedodd, “Na! Bydded i'r ARGLWYDD dy helpu; o ble y caf fi help iti—ai o'r llawr dyrnu neu o'r gwinwryf?” 28Yna gofynnodd y brenin, “Beth sydd o'i le?” Meddai hithau, “Dywedodd y ddynes yma wrthyf, ‘Dyro di dy blentyn inni ei fwyta heddiw, a chawn fwyta fy mab i yfory.’ 29Felly berwyd fy mab i a'i fwyta, ac yna dywedais wrthi y diwrnod wedyn, ‘Dyro dithau dy fab inni ei fwyta.’ Ond y mae hi wedi cuddio'i phlentyn.” 30Pan glywodd y brenin eiriau'r wraig, rhwygodd ei wisg; a chan ei fod yn cerdded ar y mur, gwelodd y bobl ei fod yn gwisgo sachliain yn nesaf at ei groen. 31Ac meddai, “Fel hyn y gwnelo Duw i mi, a rhagor, os ceidw Eliseus fab Saffat ei ben ar ei ysgwyddau heddiw.”
32Gartref yr oedd Eliseus, a'r henuriaid yn eistedd gydag ef. Anfonodd y brenin ŵr o'i lys, ond cyn i'r negesydd gyrraedd, yr oedd Eliseus wedi dweud wrth yr henuriaid, “A welwch chwi fod y cyw llofrudd hwn wedi anfon rhywun i dorri fy mhen? Edrychwch; pan fydd y negesydd yn cyrraedd, caewch y drws a daliwch y drws yn ei erbyn. Onid wyf yn clywed sŵn traed ei feistr yn ei ddilyn?” 33A thra oedd eto'n siarad â hwy, dyna'r brenin#6:33 Tebygol. Hebraeg, negesydd. yn cyrraedd ac yn dweud, “Oddi wrth yr ARGLWYDD y daeth ein haflwydd, pam y disgwyliaf rhagor wrtho?”

Dewis Presennol:

2 Brenhinoedd 6: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda