Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Brenhinoedd 5

5
Iacháu Naaman
1Yr oedd Naaman capten byddin brenin Syria yn ddyn uchel gan ei feistr ac yn fawr ei barch, am mai trwyddo ef yr oedd yr ARGLWYDD wedi gwaredu Syria. Ond aeth y rhyfelwr praff yn ŵr gwahanglwyfus. 2Pan oeddent ar gyrch yn nhir Israel cipiodd y Syriaid eneth ifanc a'i dwyn i weini ar wraig Naaman. 3Dywedodd wrth ei meistres, “Gresyn na fyddai fy meistr yn gweld y proffwyd sydd yn Samaria; byddai ef yn ei wella o'i wahanglwyf.” 4Aeth Naaman a dweud wrth ei feistr, “Y mae'r eneth o wlad Israel yn dweud fel a'r fel.” 5Ac meddai brenin Syria, “Dos di, ac anfonaf finnau lythyr at frenin Israel.” Yna aeth, a chymryd deg talent o arian, chwe mil o siclau aur a deg pâr o ddillad. 6Dygodd hefyd at frenin Israel lythyr yn dweud, “Dyma fi'n anfon atat fy ngwas Naaman; cyn gynted ag y derbynni'r llythyr hwn, rwyt i'w wella o'i wahanglwyf.” 7Pan ddarllenodd brenin Israel y llythyr, rhwygodd ei ddillad a dweud, “Ai Duw wyf fi i beri marw neu fyw, bod hwn yn anfon ataf i wella dyn o'i wahanglwyf? Sylwch ar hyn, yn awr, a gwelwch mai chwilio am achos yn f'erbyn y mae.”
8Pan glywodd Eliseus, gŵr Duw, fod brenin Israel wedi rhwygo'i ddillad, anfonodd at y brenin a dweud, “Pam yr wyt yn rhwygo dy ddillad? Gad iddo ddod ataf fi, er mwyn iddo wybod fod proffwyd yn Israel.” 9Felly daeth Naaman, gyda'i feirch a'i gerbydau, a sefyll o flaen drws tŷ Eliseus, 10a gyrrodd Eliseus neges allan ato: “Dos ac ymolchi saith waith yn yr Iorddonen, ac adferir dy gnawd yn holliach iti.” 11Ffromodd Naaman, ac aeth i ffwrdd a dweud, “Meddyliais y byddai o leiaf yn dod allan a sefyll a galw ar enw'r ARGLWYDD ei Dduw, a symud ei law dros y fan, a gwella'r gwahanglwyf. 12Onid yw Abana a Pharpar, afonydd Damascus, yn well na holl ddyfroedd Israel? Oni allwn ymolchi ynddynt hwy, a dod yn lân?” Trodd, a mynd i ffwrdd yn ei ddig.
13Ond daeth ei weision ato a dweud wrtho, “Petai'r proffwyd wedi dweud rhywbeth mawr wrthyt, oni fyddit wedi ei wneud? Onid rheitiach felly gan mai dim ond ‘Ymolch a bydd lân’ a ddywedodd?” 14Ar hynny fe aeth i lawr, ac ymdrochi saith waith yn yr Iorddonen yn ôl gair gŵr Duw, a daeth ei gnawd yn lân eto fel cnawd bachgen bach. 15Yna dychwelodd ef a'i holl fintai at ŵr Duw, a sefyll o'i flaen a dweud, “Dyma fi'n gwybod yn awr nad oes Duw mewn un wlad ond yn Israel; felly, derbyn yn awr anrheg oddi wrth dy was.” 16Atebodd yntau, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD a wasanaethaf yn fyw, ni chymeraf ddim.” 17Ac er pwyso arno i gymryd, gwrthod a wnaeth. Dywedodd Naaman, “Os na chymeri, ynteu, rhodder llwyth cwpl o fulod o bridd i mi, dy was, gan na fyddaf ar ôl hyn yn offrymu poethoffrwm nac aberth i'r un duw arall ond i'r ARGLWYDD. 18Ond yn unig—maddeued yr ARGLWYDD imi—pan fydd fy meistr yn mynychu teml Rimmon i addoli yno, ac yn pwyso ar fy llaw, byddaf finnau'n moesymgrymu yn nheml Rimmon pan fydd ef yn ymgrymu yno. Maddeued yr ARGLWYDD i'th was am y peth hwn.” 19Dywedodd Eliseus wrtho, “Heddwch iti.”
Pan oedd wedi mynd ychydig o ffordd, 20meddyliodd Gehasi, gwas Eliseus gŵr Duw, “Y mae fy meistr wedi arbed y Syriad hwn, Naaman, drwy wrthod derbyn yr hyn a ddygodd; cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, mi redaf ar ei ôl i gael rhywbeth ganddo.” 21Rhedodd ar ôl Naaman, a phan welodd Naaman ef yn rhedeg, disgynnodd o'i gerbyd i'w gyfarfod, a gofyn, “A yw popeth yn iawn?” 22“Ydyw, yn iawn,” meddai yntau, “fy meistr sydd wedi f'anfon i ddweud fod dau broffwyd ifanc newydd gyrraedd o ucheldir Effraim; bydd cystal â rhoi iddynt dalent o arian a dau bâr o ddillad.” 23Atebodd Naaman, “Ar bob cyfrif; cymer ddwy dalent.” Bu'n daer arno; clymodd ddwy dalent mewn dwy god, a'u rhoi gyda dau bâr o ddillad i ddau o'i weision i'w cario o'i flaen. 24Pan ddaethant at y bonc, cymerodd Gehasi hwy o'u llaw a'u rhoi i gadw, ac yna anfonodd y gweision yn ôl. 25Wedi iddynt fynd, aeth yntau i mewn i weini ar ei feistr, a dywedodd Eliseus wrtho, “Ple buost ti, Gehasi?” Atebodd, “Ni fu dy was yn unman.” 26Ond dywedodd Eliseus, “Onid oedd fy nghalon gyda thi pan ddisgynnodd y gŵr o'i gerbyd i'th gyfarfod, a phan dderbyniaist yr arian? Pryn ddillad a gerddi olewydd a gwinllannoedd a defaid a gwartheg a gweision a morynion; 27ond bydd gwahanglwyf Naaman yn glynu wrthyt ti a'th deulu am byth.” Aeth Gehasi allan o'i ŵydd yn wahanglwyfus, cyn wynned â'r eira.

Dewis Presennol:

2 Brenhinoedd 5: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda