Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eliseus: Hanes Ffydd AnhygoelSampl

Elisha: A Tale Of Ridiculous Faith

DYDD 10 O 13

Yn 2 Brenhinoedd, pennod 6, adnodau 8 i 23, mae brenin Syria yn ceisio dal Eliseus am ei fod yn gyfrifol am fuddugoliaethau Israel dros Syria. Bob tro, mae'r brenin yn ceisio ymosod ar Israel, mae Eliseus yn rhybuddio brenin Israel mewn ffordd goruwchnaturiol gan chwalu ei gynlluniau. Pan mae gwas Eliseus yn clywed am ymdrech brenin Syria i ddal Eliseus mae e'n dechrau ofni nes bod Eliseus yn gofyn i Dduw agor ei lygaid fel ei fod yn gweld byddinoedd y nefoedd sydd ar eu hochr. Mae gweld mor agos a nerthol ydy grym Duw yn rhoi'r hyder i was Eliseus symud ymlaen.

Mae yna gyfnodau 'n ein bywydau pan dŷn ni fel gwas Eliseus, dŷn ni wedi ein dallu rhag gweld rywbeth mae angen i ni weld ac mae'r ffaith na allwn ei weld yn ychwanegu at ein hanobaith. Falle fod di yn ddall i'r ffaith dy fod yn gaeth i berthynas sydd yn chwalu. Falle dy fod yn ddall i'r ffaith nad wyt yn byw yn gwbl ffyddlon i Dduw ac yn ei ddilyn yn unig pan mae'n gyfleus neu pan wyt ti'n yr eglwys. Falle dy fod yn ddall i'r person mae Duw wedi dy alw i fod, ac yn fodlon yn dy hunanfoddhad. Dydy ddim o unrhyw bwys beth wyt ti wedi fethu'i weld, gall Duw agor dy lygaid a'th helpu i weld y gwirionedd. Y cwbl sydd rhaid i ti ei wneud yw gofyn iddo e ddod a bod yn agored iddo, a chaniatáu iddo agor dy lygaid. Beth wyt ti'n ei feddwl dy fod wedi bod yn ddall i'r hyn roeddet angen ei weld? Pa gamau fyddi di'n eu cymryd i agor dy lygaid?
Diwrnod 9Diwrnod 11

Am y Cynllun hwn

Elisha: A Tale Of Ridiculous Faith

:Eliseus yw un o'r pobl mwyaf diddorol yng ngair Duw. Roedd- yn broffwyd gyda ffydd a gwyrthiau sy'n ymddangos yn anhygoel. Yn ystod y cynllun 13 diwrnod hwn byddi'n darllen drwy fywyd Eliseus gan ddysgu o'i esiampl sut y gallai bywyd fod pe byddet yn llwyr ymddiried a byw gyda ffydd anhygoel.

More

We would like to thank Pastor Craig Groeschel and Life.Church for providing this plan. For more information, please visit: www.Life.Church