Pan oedd brenin Syria am ryfela yn erbyn Israel, ymgynghorodd â'i weision a phenderfynu, “Yn y fan a'r fan y bydd fy ngwersyll.” Ac anfonodd gŵr Duw at frenin Israel a dweud, “Gwylia rhag mynd heibio'r fan a'r fan, oherwydd y mae'r Syriaid yn mynd i lawr yno.” Ac anfonodd brenin Israel ddynion i'r fan a ddywedodd gŵr Duw, ac felly y rhybuddiwyd ef i fod yn wyliadwrus, dro ar ôl tro.
Cynhyrfodd brenin Syria am hyn a galwodd ei weision ato a dweud wrthynt, “Oni ddywedwch wrthyf pwy ohonom sydd o blaid brenin Israel?” Ond dywedodd un o'i weision, “Nid oes neb, f'arglwydd frenin; Eliseus, y proffwyd o Israel, sy'n dweud wrth frenin Israel y geiriau yr wyt ti'n eu llefaru yn d'ystafell wely.” Dywedodd yntau, “Ewch ac edrychwch ble y mae ef, er mwyn i mi anfon i'w ddal.” Dywedwyd wrtho, “Y mae yn Dothan.” Ac anfonodd yno feirch a cherbydau a byddin gref. Daethant liw nos ac amgylchu'r dref.
Pan gododd gwas gŵr Duw yn y bore bach, a mynd allan, dyna lle'r oedd byddin a meirch a cherbydau o amgylch y dref, ac meddai, “O feistr, beth a wnawn ni?” Dywedodd yntau, “Paid ag ofni; y mae mwy gyda ni nag sydd gyda hwy.” Yna gweddïodd Eliseus, “ARGLWYDD, agor ei lygaid, iddo weld.” Ac agorodd yr ARGLWYDD lygaid y llanc, ac yna fe welodd y mynydd yn llawn meirch a cherbydau tanllyd o gwmpas Eliseus. Pan ddaeth y Syriaid i lawr ato, gweddïodd Eliseus ar yr ARGLWYDD a dweud, “Taro'r bobl hyn yn ddall,” a thrawyd hwy'n ddall, yn ôl gair Eliseus. A dywedodd Eliseus wrthynt, “Nid dyma'r ffordd; nid hon yw'r dref. Dilynwch fi, ac af â chwi at y gŵr yr ydych yn ei geisio.” Ac arweiniodd hwy i Samaria.
Wedi iddynt gyrraedd Samaria, dywedodd Eliseus, “ARGLWYDD, agor lygaid y bobl hyn, iddynt weld.” Pan agorodd yr ARGLWYDD eu llygaid a hwythau'n gweld, yno yng nghanol Samaria yr oeddent. A phan welodd brenin Israel hwy, gofynnodd i Eliseus, “Fy nhad, a gaf fi eu lladd bob un?” Atebodd yntau, “Na, paid â'u lladd. A fyddit ti'n lladd y rhai a gymerit yn gaeth trwy dy gleddyf a'th fwa? Rho fara a dŵr o'u blaenau, iddynt gael bwyta ac yfed a mynd yn ôl at eu meistr.” Arlwyodd wledd fawr iddynt, ac wedi iddynt fwyta ac yfed, gollyngodd hwy. Aethant at eu meistr, ac ni ddaeth byddinoedd Syria rhagor i dir Israel.