2 Brenhinoedd 6:8-23
2 Brenhinoedd 6:8-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan oedd brenin Syria am ryfela yn erbyn Israel, ymgynghorodd â'i weision a phenderfynu, “Yn y fan a'r fan y bydd fy ngwersyll.” Ac anfonodd gŵr Duw at frenin Israel a dweud, “Gwylia rhag mynd heibio'r fan a'r fan, oherwydd y mae'r Syriaid yn mynd i lawr yno.” Ac anfonodd brenin Israel ddynion i'r fan a ddywedodd gŵr Duw, ac felly y rhybuddiwyd ef i fod yn wyliadwrus, dro ar ôl tro. Cynhyrfodd brenin Syria am hyn a galwodd ei weision ato a dweud wrthynt, “Oni ddywedwch wrthyf pwy ohonom sydd o blaid brenin Israel?” Ond dywedodd un o'i weision, “Nid oes neb, f'arglwydd frenin; Eliseus, y proffwyd o Israel, sy'n dweud wrth frenin Israel y geiriau yr wyt ti'n eu llefaru yn d'ystafell wely.” Dywedodd yntau, “Ewch ac edrychwch ble y mae ef, er mwyn i mi anfon i'w ddal.” Dywedwyd wrtho, “Y mae yn Dothan.” Ac anfonodd yno feirch a cherbydau a byddin gref. Daethant liw nos ac amgylchu'r dref. Pan gododd gwas gŵr Duw yn y bore bach, a mynd allan, dyna lle'r oedd byddin a meirch a cherbydau o amgylch y dref, ac meddai, “O feistr, beth a wnawn ni?” Dywedodd yntau, “Paid ag ofni; y mae mwy gyda ni nag sydd gyda hwy.” Yna gweddïodd Eliseus, “ARGLWYDD, agor ei lygaid, iddo weld.” Ac agorodd yr ARGLWYDD lygaid y llanc, ac yna fe welodd y mynydd yn llawn meirch a cherbydau tanllyd o gwmpas Eliseus. Pan ddaeth y Syriaid i lawr ato, gweddïodd Eliseus ar yr ARGLWYDD a dweud, “Taro'r bobl hyn yn ddall,” a thrawyd hwy'n ddall, yn ôl gair Eliseus. A dywedodd Eliseus wrthynt, “Nid dyma'r ffordd; nid hon yw'r dref. Dilynwch fi, ac af â chwi at y gŵr yr ydych yn ei geisio.” Ac arweiniodd hwy i Samaria. Wedi iddynt gyrraedd Samaria, dywedodd Eliseus, “ARGLWYDD, agor lygaid y bobl hyn, iddynt weld.” Pan agorodd yr ARGLWYDD eu llygaid a hwythau'n gweld, yno yng nghanol Samaria yr oeddent. A phan welodd brenin Israel hwy, gofynnodd i Eliseus, “Fy nhad, a gaf fi eu lladd bob un?” Atebodd yntau, “Na, paid â'u lladd. A fyddit ti'n lladd y rhai a gymerit yn gaeth trwy dy gleddyf a'th fwa? Rho fara a dŵr o'u blaenau, iddynt gael bwyta ac yfed a mynd yn ôl at eu meistr.” Arlwyodd wledd fawr iddynt, ac wedi iddynt fwyta ac yfed, gollyngodd hwy. Aethant at eu meistr, ac ni ddaeth byddinoedd Syria rhagor i dir Israel.
2 Brenhinoedd 6:8-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan oedd brenin Syria yn rhyfela yn erbyn Israel, roedd e’n trafod y strategaeth gyda’i swyddogion milwrol. Byddai’n penderfynu codi gwersyll yn rhywle, i ymosod ar Israel. Ond wedyn byddai Eliseus, proffwyd Duw, yn anfon neges at frenin Israel i ddweud wrtho am fod yn ofalus wrth fynd heibio’r lle arbennig hwnnw, am fod byddin Syria’n dod yno i ymosod. Wedyn byddai brenin Israel yn anfon milwyr yno i amddiffyn y lle. Roedd hyn yn digwydd dro ar ôl tro. Roedd brenin Syria wedi cynhyrfu o achos hyn. A dyma fe’n galw’i swyddogion at ei gilydd, a dweud, “Dwedwch wrtho i, pa un ohonoch chi sy’n helpu brenin Israel?” Dyma un ohonyn nhw’n ateb, “Fy mrenin. Does neb ohonon ni’n gwneud hynny, syr. Eliseus y proffwyd yn Israel ydy e! Mae hyd yn oed yn rhannu gyda brenin Israel beth ti’n ddweud yn dy ystafell wely!” Felly dyma’r brenin yn dweud, “Ffeindiwch e i mi, er mwyn i mi anfon dynion yno i’w ddal e!” Dyma nhw’n darganfod fod Eliseus yn Dothan, a mynd i ddweud wrth y brenin. Felly dyma’r brenin yn anfon byddin gref yno, gyda cheffylau a cherbydau. A dyma nhw’n cyrraedd yno yn y nos ac yn amgylchynu’r dre. Yn gynnar y bore wedyn dyma was Eliseus yn codi a mynd allan. A dyna lle roedd byddin Syria gyda cheffylau a cherbydau wedi amgylchynu’r dre. A dyma’r bachgen yn dweud wrth Eliseus, “O na! Feistr, be wnawn ni?” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Paid dychryn. Mae yna fwy ar ein hochr ni nag sydd gyda nhw.” Yna dyma Eliseus yn gweddïo, “ARGLWYDD, agor ei lygaid iddo weld.” A dyma’r ARGLWYDD yn agor llygaid y bachgen, ac roedd e’n gweld fod y bryn yn llawn ceffylau a cherbydau fel fflamau tân o gwmpas Eliseus. Wrth i fyddin Syria ddod yn nes, dyma Eliseus yn gweddïo, “ARGLWYDD, wnei di daro’r bobl yma’n ddall.” A dyma nhw’n cael eu dallu, fel roedd Eliseus wedi gofyn. Yna dyma Eliseus yn mynd atyn nhw a dweud, “Dim y ffordd yma, na’r dre yma dych chi eisiau. Dewch ar fy ôl i. Gwna i fynd â chi at y dyn dych chi’n chwilio amdano.” A dyma fe’n eu harwain nhw i Samaria. Ar ôl iddyn nhw gyrraedd, dyma Eliseus yn gweddïo eto, “ARGLWYDD, agor eu llygaid nhw iddyn nhw allu gweld.” Dyma’r ARGLWYDD yn agor eu llygaid, ac roedden nhw’n gweld eu bod yng nghanol tref Samaria. Pan welodd brenin Israel nhw dyma fe’n gofyn i Eliseus, “Fy nhad, ddylwn i eu lladd nhw’n syth?” “Na, paid lladd nhw,” meddai Eliseus. “Fyddet ti’n lladd pobl wedi’u dal mewn brwydr? Na. Rho rywbeth i’w fwyta a’i yfed iddyn nhw, ac wedyn gadael iddyn nhw fynd yn ôl at eu meistr.” Felly dyma’r brenin yn trefnu gwledd fawr iddyn nhw, a dyma nhw’n bwyta ac yn yfed. Wedyn dyma nhw’n mynd yn ôl at eu meistr. O hynny ymlaen dyma fyddin Syria yn stopio ymosod ar wlad Israel.
2 Brenhinoedd 6:8-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A brenin Syria oedd yn rhyfela yn erbyn Israel; ac efe a ymgynghorodd â’i weision, gan ddywedyd, Yn y lle a’r lle y bydd fy ngwersyllfa. A gŵr DUW a anfonodd at frenin Israel, gan ddywedyd, Ymgadw rhag myned i’r lle a’r lle: canys yno y disgynnodd y Syriaid. A brenin Israel a anfonodd i’r lle am yr hwn y dywedasai gŵr DUW wrtho, ac y rhybuddiasai ef, ac a ymgadwodd yno, nid unwaith, ac nid dwywaith. A chalon brenin Syria a gythryblwyd herwydd y peth hyn; ac efe a alwodd ar ei weision, ac a ddywedodd wrthynt, Oni fynegwch i mi pwy ohonom ni sydd gyda brenin Israel? Ac un o’i weision ef a ddywedodd, Nid oes neb, fy arglwydd frenin: ond Eliseus y proffwyd, yr hwn sydd yn Israel, a fynega i frenin Israel y geiriau a leferi di yng nghanol dy ystafell wely. Ac efe a ddywedodd, Ewch, ac edrychwch pa le y mae efe, fel yr anfonwyf i’w gyrchu ef. A mynegwyd iddo, gan ddywedyd, Wele, yn Dothan y mae efe. Am hynny efe a anfonodd yno feirch a cherbydau, a llu mawr: a hwy a ddaethant liw nos, ac a amgylchynasant y ddinas. A phan gododd gweinidog gŵr DUW yn fore, a myned allan, wele lu yn amgylchynu y ddinas, â meirch ac â cherbydau. A’i was a ddywedodd wrtho ef, Aha, fy meistr! pa fodd y gwnawn? Ac efe a ddywedodd, Nac ofna: canys amlach yw y rhai sydd gyda ni na’r rhai sydd gyda hwynt. Ac Eliseus a weddïodd, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD, agor, atolwg, ei lygaid ef, fel y gwelo. A’r ARGLWYDD a agorodd lygaid y llanc; ac efe a edrychodd: ac wele y mynydd yn llawn meirch a cherbydau tanllyd o amgylch Eliseus. A phan ddaethant i waered ato ef, Eliseus a weddïodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Taro, atolwg, y genedl hon â dallineb. Ac efe a’u trawodd hwy â dallineb, yn ôl gair Eliseus. Ac Eliseus a ddywedodd wrthynt, Nid hon yw y ffordd, ac nid hon yw y ddinas: deuwch ar fy ôl i, a mi a’ch dygaf chwi at y gŵr yr ydych chwi yn ei geisio. Ond efe a’u harweiniodd hwynt i Samaria. A phan ddaethant hwy i Samaria, Eliseus a ddywedodd, O ARGLWYDD, agor lygaid y rhai hyn, fel y gwelont. A’r ARGLWYDD a agorodd eu llygaid hwynt; a hwy a welsant: ac wele, yng nghanol Samaria yr oeddynt. A brenin Israel a ddywedodd wrth Eliseus, pan welodd efe hwynt, Gan daro a drawaf hwynt, fy nhad? Dywedodd yntau, Na tharo: a drewit ti y rhai a gaethiwaist â’th gleddyf ac â’th fwa dy hun? gosod fara a dwfr ger eu bron hwynt, fel y bwytaont ac yr yfont, ac yr elont at eu harglwydd. Ac efe a arlwyodd iddynt hwy arlwy fawr: a hwy a fwytasant ac a yfasant; ac efe a’u gollyngodd hwynt ymaith, a hwy a aethant at eu harglwydd. Felly byddinoedd Syria ni chwanegasant ddyfod mwyach i wlad Israel.