Pan oedd brenin Syria yn rhyfela yn erbyn Israel, roedd e’n trafod y strategaeth gyda’i swyddogion milwrol. Byddai’n penderfynu codi gwersyll yn rhywle, i ymosod ar Israel. Ond wedyn byddai Eliseus, proffwyd Duw, yn anfon neges at frenin Israel i ddweud wrtho am fod yn ofalus wrth fynd heibio’r lle arbennig hwnnw, am fod byddin Syria’n dod yno i ymosod. Wedyn byddai brenin Israel yn anfon milwyr yno i amddiffyn y lle. Roedd hyn yn digwydd dro ar ôl tro.
Roedd brenin Syria wedi cynhyrfu o achos hyn. A dyma fe’n galw’i swyddogion at ei gilydd, a dweud, “Dwedwch wrtho i, pa un ohonoch chi sy’n helpu brenin Israel?”
Dyma un ohonyn nhw’n ateb, “Fy mrenin. Does neb ohonon ni’n gwneud hynny, syr. Eliseus y proffwyd yn Israel ydy e! Mae hyd yn oed yn rhannu gyda brenin Israel beth ti’n ddweud yn dy ystafell wely!”
Felly dyma’r brenin yn dweud, “Ffeindiwch e i mi, er mwyn i mi anfon dynion yno i’w ddal e!”
Dyma nhw’n darganfod fod Eliseus yn Dothan, a mynd i ddweud wrth y brenin. Felly dyma’r brenin yn anfon byddin gref yno, gyda cheffylau a cherbydau. A dyma nhw’n cyrraedd yno yn y nos ac yn amgylchynu’r dre.
Yn gynnar y bore wedyn dyma was Eliseus yn codi a mynd allan. A dyna lle roedd byddin Syria gyda cheffylau a cherbydau wedi amgylchynu’r dre. A dyma’r bachgen yn dweud wrth Eliseus, “O na! Feistr, be wnawn ni?”
Ond dyma Eliseus yn ateb, “Paid dychryn. Mae yna fwy ar ein hochr ni nag sydd gyda nhw.” Yna dyma Eliseus yn gweddïo, “ARGLWYDD, agor ei lygaid iddo weld.” A dyma’r ARGLWYDD yn agor llygaid y bachgen, ac roedd e’n gweld fod y bryn yn llawn ceffylau a cherbydau fel fflamau tân o gwmpas Eliseus.
Wrth i fyddin Syria ddod yn nes, dyma Eliseus yn gweddïo, “ARGLWYDD, wnei di daro’r bobl yma’n ddall.” A dyma nhw’n cael eu dallu, fel roedd Eliseus wedi gofyn.
Yna dyma Eliseus yn mynd atyn nhw a dweud, “Dim y ffordd yma, na’r dre yma dych chi eisiau. Dewch ar fy ôl i. Gwna i fynd â chi at y dyn dych chi’n chwilio amdano.” A dyma fe’n eu harwain nhw i Samaria.
Ar ôl iddyn nhw gyrraedd, dyma Eliseus yn gweddïo eto, “ARGLWYDD, agor eu llygaid nhw iddyn nhw allu gweld.” Dyma’r ARGLWYDD yn agor eu llygaid, ac roedden nhw’n gweld eu bod yng nghanol tref Samaria.
Pan welodd brenin Israel nhw dyma fe’n gofyn i Eliseus, “Fy nhad, ddylwn i eu lladd nhw’n syth?”
“Na, paid lladd nhw,” meddai Eliseus. “Fyddet ti’n lladd pobl wedi’u dal mewn brwydr? Na. Rho rywbeth i’w fwyta a’i yfed iddyn nhw, ac wedyn gadael iddyn nhw fynd yn ôl at eu meistr.”
Felly dyma’r brenin yn trefnu gwledd fawr iddyn nhw, a dyma nhw’n bwyta ac yn yfed. Wedyn dyma nhw’n mynd yn ôl at eu meistr.
O hynny ymlaen dyma fyddin Syria yn stopio ymosod ar wlad Israel.