Eliseus: Hanes Ffydd AnhygoelSampl
Mae 2 Brenhinoedd, pennod 8, adnodau 1 i 6 yn stori o gyd-ddigwyddiad hollol wrthun. Yn y darn hwn dŷn ni'n gweld y wraig o Shwnem eto, yr un y cafodd ei mab ei atgyfodi gan Eliseus yn 2 Brenhinoedd. pennod 4. Mae'r ddynes yn dewis dychwelyd i Israel oherwydd newyn. Pan mae'n dychwelyd at y brenin, mae hi'n cerdded i mewn ar yr union adeg mae gwas Eliseus, Gehasi, yn dweud y stori wrth y brenin am sut gafodd ei mab ei atgyfodi. Ar y cyd-ddigwyddiad gwrthun hwnnw, rhoddodd y brenin dir y wraig yn ôl iddi. I Dduw does ddim y fath beth â chyd-ddigwyddiad.
Meddylia am gyfnodau'n dy fywyd roeddet yn eu hystyried fel cyd-ddigwyddiad. Y tebygolrwydd ydy y gelli edrych yn ôl a gweld Duw ar waith a roedd yr hyn roeddet ti'n ei ystyried fel cyd-ddigwyddiad, mewn gwirionedd, yn apwyntiad ddwyfol roedd Duw wedi'i raglennu ar dy gyfer. Yn bwysicach, dylet wneud yn siwr dy fod ar gael ar gyfer yr apwyntiadau dwyfol oherwydd bydd Duw yn eu hamserlennu eto. Bydd yn eofn yn dy ffydd ac yn lle disgwyl i Dduw ddod â'r 'cyd-ddigwyddiadau' hynny i'th fywyd, bydd yn ragweithiol a gofyn i Dduw i ddod â'r digwyddiadau hynny i'th fywyd yn amlach. Cofia, does ddim y fath beth â chyd-ddigwyddiad pan rwyt yn gwneud dy hun yn agored i gael dy ddefnyddio gan Dduw. Disgrifia gyfnod pan wnest ti brofi cyd-ddigwyddiad. Sut weles ti Duw ar waith yn y sefyllfa hwnnw?

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
:Eliseus yw un o'r pobl mwyaf diddorol yng ngair Duw. Roedd- yn broffwyd gyda ffydd a gwyrthiau sy'n ymddangos yn anhygoel. Yn ystod y cynllun 13 diwrnod hwn byddi'n darllen drwy fywyd Eliseus gan ddysgu o'i esiampl sut y gallai bywyd fod pe byddet yn llwyr ymddiried a byw gyda ffydd anhygoel.
More
We would like to thank Pastor Craig Groeschel and Life.Church for providing this plan. For more information, please visit: www.Life.Church