Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eliseus: Hanes Ffydd AnhygoelSampl

Elisha: A Tale Of Ridiculous Faith

DYDD 8 O 13

Yn 2 Brenhinoedd, pennod 5 dŷn ni'n darllen am gapten milwrol estron o'r enw Naaman sy'n dioddef o'r gwahnaglwyf. Mae e'n clywed gan gaethferch ifanc y gallai Eliseus, falle, ei iachau, felly mae e'n mynd i gyfeiriad Israel gyda'i osgordd a rhoddion i'r brenin. Pan mae Naaman yn cyfarfod Eliseus o'r diwedd, mae e'n disgwyl iddo gael gwared ar ei wahanglwyf ar unwaith. Yn lle hynny, mae eliseus yn gofyn iddo wneud rywbeth sy'n ymddangos yn wrthun i Naamabn, sef mynd ag ymolchi saith gwaith yn afon Iorddonen. I ddechrau mae Naaman yn gwrthod gwneud beth ddwedodd Eliseus wrtho i wneud, ond yn mynd ar ôl i'w ddynion ei annog i wneud. Pan mae e'n gwneud beth ofynnodd Eliseus iddo'i wneud, mae Naaman yn cael ei iachau. Mae ymateb Naaman yn un cyffredin iawn.

Ar ryw bwynt yn dy fywyd rwyt wedi teimlo fel dy fod wedi dy arwain i wneud rywbeth oedd yn ymddangos yn wirion ar y pryd. Falle dy fod wedi gofyn i Dduw wedi gofyn i Dduw wneud rywbeth yn dy fywyd fel Naaman, ond roedd ei ymateb cyntaf ddim yr hyn roeddet ti'n ei ddisgwyl ac roeddet tin anfodlon darostwng dy hun ddigon i ddilyn dulliau Duw. Pan fyddwn ni'n gofyn i Dduw wneud rywbeth yn ein bywydau, ddylen ni ddim ei wneud gydag agwedd neu ddisgwyliad o sut yn union, na phryd, y byddai e'n ei wneud. Dydyn ni ddim yn fwy na Duw, a rhaid i ni osod ein ffydd ynddo a bydd yn ei wneud ar yr amser ac yn y ffordd iawn. Dydyn ni ddim mewn rheolaeth. Duw sydd mewn rheolaeth ac fel mae Eseia, pennod 55, adnod 8 yn ddweud. dydy ei ffyrdd e ddim fel ein ffyrdd ni. Pa gamau elli di eu cymryd i ddarostwng dy hun yn gyfan gwbl gerbron Duw a sylweddoli nad ei ffyrdd e yw dy ffyrdd di?
Diwrnod 7Diwrnod 9

Am y Cynllun hwn

Elisha: A Tale Of Ridiculous Faith

:Eliseus yw un o'r pobl mwyaf diddorol yng ngair Duw. Roedd- yn broffwyd gyda ffydd a gwyrthiau sy'n ymddangos yn anhygoel. Yn ystod y cynllun 13 diwrnod hwn byddi'n darllen drwy fywyd Eliseus gan ddysgu o'i esiampl sut y gallai bywyd fod pe byddet yn llwyr ymddiried a byw gyda ffydd anhygoel.

More

We would like to thank Pastor Craig Groeschel and Life.Church for providing this plan. For more information, please visit: www.Life.Church