Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eliseus: Hanes Ffydd AnhygoelSampl

Elisha: A Tale Of Ridiculous Faith

DYDD 7 O 13

Yn 2 Brenhinoedd, pennod 4, adnodau 38 i 44 mae Eliseus yn parhau i gyflawni gwyrthiau tebyg i Iesu. Yn yr wyrth gyntaf mae Eliseus yn puro'r cawl oedd wedi'i wneud i'r proffwydi o'r wenwyn. Mae'r ail wyrth yn ymwneud â Eliseus yn amlhau'r 20 torth haidd fel bod digon i fwydo cant o ddynion. Mae'r gwyrthiau hyn yn enghraifft arall o Dduw yn defnyddio Eliseus i ateb anghenion eraill. Mwy na thebyg rwyt ti wedi cael ryw fath o "gawl gwenwynig" y gwnaeth Duw ei iacháu. Falle mai rhywbeth corfforol neu mewnol oedd e'n dy galon neu dy feddwl. Falle bod gen ti rywbeth gwenwynig yn dy fywyd an fedri di gael gwared arno dy hun a dim ond grym Duw all gael gwared arno. Yn union fel gwnaeth Duw gyda rywbeth mor syml â chawl, gall Duw gael gwared ar unrhyw a phob gwenwyn yn dy fywyd a'th wneud yn newydd ac iach, unwaith eto. Pa wenwyn mae Duw wedi'th iacháu dy fywyd ohono? Pa wenwyn sydd falle angen cael gwared ohono o'th fywyd y funud hon?
Diwrnod 6Diwrnod 8

Am y Cynllun hwn

Elisha: A Tale Of Ridiculous Faith

:Eliseus yw un o'r pobl mwyaf diddorol yng ngair Duw. Roedd- yn broffwyd gyda ffydd a gwyrthiau sy'n ymddangos yn anhygoel. Yn ystod y cynllun 13 diwrnod hwn byddi'n darllen drwy fywyd Eliseus gan ddysgu o'i esiampl sut y gallai bywyd fod pe byddet yn llwyr ymddiried a byw gyda ffydd anhygoel.

More

We would like to thank Pastor Craig Groeschel and Life.Church for providing this plan. For more information, please visit: www.Life.Church