Eliseus: Hanes Ffydd AnhygoelSampl
Wyt ti'n teimlo fel dy fod wedi dy orlethu gan ormod o gyfrifoldebau a sialensiau sy'n dy wynebu rownd pob cornel? Wyt ti'n teimlo fod dy opsiynau wedi darfod ac mae dy fywyd yn undonog? Mae'n debygol iawn mai dyna oedd gwraig y proffwyd yn 2 Brenhinoedd, pennod 4, adnodau 1 i 7 yn ei deimlo Gyda marwolaeth ei gŵr roedd hi mewn dyled dybryd ac yn ofni colli popeth oedd ganddi - gan gynnwys ei meibion - i gredydwyr, Gofynnodd i Eliseus am help. Pan ofynnodd iddi beth oedd ganddi i weithio ag e, dwedodd nad oedd ganddi ddim ond jar bach o olew. Falle y gelli uniaethu ä'r wraig pan wyt ti'n meddwl mad yw beth sydd gen ti'n ddigon, rwyt yn teimlo'n anobeithiol ac yn ffocysu'n unig ar dy gyfyngiadau. Mae Duw yn gweld dy broblem mewn ffordd hollol wahanol i ti.
Drwy'r ysgrythur yn gyfan dŷn ni'n gweld esiamplau o sut mae Duw'n arbenigo mewn gwneud llawer gydag ychydig ac mae'r stori hon yn enghraifft wych. Falle fod y byd yn gweld hyn yn afresymol neu chwerthinllyd, ond dydy Duw ddim. Cymrodd Duw un jar o olew a'i ddyblygu fel y gallai'r wraig weddw dalu ei dyledion. Yn ystod y cyfnodau hynny pan wyt ti'n teimlo fel dy fod wedi dy orlethu a mae dy opsiynau wedi dod i ben, cofia mai'r cwbl mae Duw ei angen yw'r hyn sydd gen ti. Mae Duw wedi rhoi'r cwbl sydd ei angen arnat i ti. Ble mewn bywyd wyt ti'n teimlo fel dy fos wedi dy orlethu a does dim ar ôl gen ti|? Beth yw rhai o'r pethau sydd gen ti allai dy helpu i newid dy ffocws?

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
:Eliseus yw un o'r pobl mwyaf diddorol yng ngair Duw. Roedd- yn broffwyd gyda ffydd a gwyrthiau sy'n ymddangos yn anhygoel. Yn ystod y cynllun 13 diwrnod hwn byddi'n darllen drwy fywyd Eliseus gan ddysgu o'i esiampl sut y gallai bywyd fod pe byddet yn llwyr ymddiried a byw gyda ffydd anhygoel.
More
We would like to thank Pastor Craig Groeschel and Life.Church for providing this plan. For more information, please visit: www.Life.Church