Eliseus: Hanes Ffydd AnhygoelSampl
Mae pennod 3 o 2 Brenhinoedd yn stori gyfareddol ble mae tri brenin Israel, Jwda ac Edom yn uno i ennill brwydr yn hawdd gyda'i gilydd, ond wnaeth pethau ddim gweithio fel roedden nhw'n disgwyl. Mae'r brenhinoedd, wedyn, yn gofyn am help Eliseus am help yn eu brwydr. Chawson nhw mo'r ateb roedden nhw'n ei ddisgwyl. Mae Eliseus yn dweud wrthyn nhw (fersiwn beibl. net) i fynd â gwneud ffosydd yn y dyffryn a bydd Duw yn eu llenwi â dŵr fel eu bod nhw a'u hanifeiliaid yn cael yfed. Os byddan nhw'n gwneud hyn, yna bydd Duw yn Duw yn gadael iddyn nhw ennill y frwydr yn erbyn Moab. Roedd y brenhinoedd yn meddwl fod cais Eliseus yn wrthun ond fe wnaethon nhw gredu'n addewid Duw a gwneud fel ddwedwyd wrthyn nhw am wneud.
Mae'r stori gyfan yma'n ymwneud â ffydd. Dim ond Duw all anfon y dŵr, ond rhaid i ti a chloddio'r ffosydd. Os wyt am weld dŵr yn dy fywyd, dos ati i gloddio ffos. Mae ffydd go iawn yn gweithio a'r credu yn fawr, ond rhaid i ti fod yn fodlon dechrau'n fach. Dydy maint dy weledigaeth ddim yn frawychus i Dduw. Dydy llawer ddim yn meddwl yn ddigon mawr, ond yn fwy na hynny, yn gwrthod dechrau'n fach. Sut wyt ti'n cloddio ffos? Cymer dy "raw" a chloddio un "rhawied" ar y tro. Fedri di ddim disgwyl i Dduw roi pethau mawr i ti os nad wyt ti'n fodlon dechrau'n fach. Meddylia'n fawr. Dechreua'n fach. Rho dy ffydd ar waith drwy gloddio ffosydd. Beth yw'r weledigaeth rwyt ti angen help Duw i'w chyflawni? Pa ffosydd wyt ti angen eu cloddio i gychwyn gwneud yr weledigaeth yn realiti?

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
:Eliseus yw un o'r pobl mwyaf diddorol yng ngair Duw. Roedd- yn broffwyd gyda ffydd a gwyrthiau sy'n ymddangos yn anhygoel. Yn ystod y cynllun 13 diwrnod hwn byddi'n darllen drwy fywyd Eliseus gan ddysgu o'i esiampl sut y gallai bywyd fod pe byddet yn llwyr ymddiried a byw gyda ffydd anhygoel.
More
We would like to thank Pastor Craig Groeschel and Life.Church for providing this plan. For more information, please visit: www.Life.Church