Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnabod: 10 Diwrnod i Ddarganfod Dy HunaniaethSampl

Known: 10 Days to Discovering Your Identity

DYDD 10 O 10

Rwyt ti'n hil ddewisol, yn offeiriadaeth frenhinol, yn genedl sanctaidd. Mae'r darn hwn yn gwneud yn glir nad oes unrhyw gwestiwn ynghylch pwy wyt ti fel un o ddilynwyr Crist. Rwyt ti wedi cael osod ar wahân! “Ar un adeg doeddech chi'n neb o bwys, ond bellach chi ydy pobl Dduw. Ar un adeg doeddech chi ddim wedi profi trugaredd Duw, ond bellach dych wedi profi ei drugaredd.” Unwaith roeddet ti'n ddall, nawr rwyt ti’n gweld, diolch i'w ryfeddol olau.

Ond nid yn unig y cei di dy alw i gael dy osod ar wahân, yn wahanol. Paid stopio yn y fan yna! Mae cael dy osod ar wahân gan Dduw yn dod gyda chynllun gweithredu. Fe’th gelwir i ymatal rhag nwydau’r cnawd - pethau’r byd hwn y gwyddost nad ydyn nhw’n iawn, ond y maen nhw’n teimlo’n hwyl am ennyd - gan fod y pethau hyn yn ymladd â’th enaid. Mor aml, y pethau HYN sy'n ceisio dy ddiffinio a gosod bwlch rhwng pwy wyt ti mewn gwirionedd (mab a merch i Dduw) a dweud wrthyt ti dy fod di'n rhywbeth a all roi iti eiliad o ddilysrwydd, ond yn y tymor hir, yn ddim ond hunaniaethau gwag. Rwyt ti wedi cael dy alw i alwad uwch na hynny. Paid aberthu dy ran o’r offeiriadaeth frenhinol ar gyfer hunaniaeth dros dro.

Galwir ti a minnau i fyw'n anrhydeddus fel dilynwyr Crist - nid felly mae pobl yn dy weld di ac yn meddwl dy fod chi mor wych. Ond felly y maen nhw’n gweld pwy yw Duw trwot ti – trwy dy weithredoedd, dy eiriau, a'r ffordd rwyt yn ymddwyn, nid yn haerllug, ond yn ostyngedig.

Felly pan fyddi di'n cerdded allan trwy’r drws heddiw, cofia pwy wyt ti. Pan fyddi di yng nghwmni ffrindiau, cofia pwy wyt ti. Rwyt yn hil etholedig, yn offeiriadaeth frenhinol, yn genedl sanctaidd, yn eiddo i’w hun. Ac allan o'r hunaniaeth honno, dylet fyw. Arwain bobl ato. Rhanna ei oleuni a'r hyn y mae wedi'i wneud yn dy fywyd. A gwylia wrth iddo dy drawsnewid i bwy mae e wedi dy alw di i fod yn unigryw.

Ysgrythur

Diwrnod 9

Am y Cynllun hwn

Known: 10 Days to Discovering Your Identity

Gall fod yn hawdd mynd ar goll yn yr hyn rwyt ti’n cael dy adnabod amdano a cholli allan ar bwy sy’n d’adnabod. Mae gan Air Duw lawer i'w ddweud amdanat ti, pwy wyt ti, a phwy a'th greodd i fod. Bydd y defosiwn 10 diwrnod hwn yn helpu i fynd â thi ar y daith i ddarganfod dy wir hunaniaeth.

More

Hoffem ddiolch i Fresh Life Church (Levi Lusko) am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o fanylion dos i: http://freshlife.church