Adnabod: 10 Diwrnod i Ddarganfod Dy HunaniaethSampl
Mae creawdwr yn adnabod er greadigaeth. Os wyt ti'n treulio amser yn edrych ar flodyn, hyd yn oed yr enghraifft symlaf, mae cymaint o sylw i fanylion a harddwch. Dw i’n dy herio’r funud hon i fynd allan i edrych ar rai blodau, neu o leiaf fynd ar Gwgl. Mae'n wirioneddol wyrthiol, onid yw e?! Yn ystod stori’r Creu, roedd Duw yn gwybod bod angen blodau yn wisg i’r caeau - nid oedd yn ôl-ystyriaeth. Gallwn wybod bod Duw yn gofalu dim ond trwy edrych ar y manylion lleiaf a geir mewn blodau.
Y peth am y rhan hon o'r ysgrythur sydd mor arbennig yw bod Iesu yn siarad yn union ȃ thi, ac mae e'n awyddus i dawelu dy galon bryderus. Mae'n dweud wrthot ti, pe bae Duw yn rhoi cymaint o sylw i flodau gwyllt, nad ydyn nhw hyd yn oed yn uchafbwynt ei greadigaeth (wna i dy atgoffa, rhag ofn dy fod wedi anghofio: TI yw'r uchafbwynt hwnnw), paid â meddwl na fyddai’n rhoi sylw i ti, yn ymfalchïo ynot ti, ac yn gwneud ei orau drosot ti? Y mae ein Creawdwr yn dy adnabod yn ddwfn, ac y mae ei galon e GYDA ti.
Ond o'th ran di, mae'n rhaid i ti frwydro i beidio â gadael lle wrth y bwrdd fel bod ofn, pryder, ac amheuaeth yn sleifio i mewn. Dydy cael ychydig o ffydd y bydd Duw yn driw i'w air ddim yn broblem fach! Oes unrhyw un arall yn teimlo pigiad mawr o ddarllen hwnna? Dw i'n gwybod wnes i. Dirmygu Duw yw ffydd fach ac mae'n ychwanegu tanwydd at dy ofnau. Mae'n rhaid i ti gymryd camau i orffwys yn yr addewid a roddodd Iesu i ti. Dalia ati i ddod yn ôl at wirionedd ei eiriau a'r amseroedd rwyt ti wedi gweld ei ffyddlondeb yn cael ei arddangos. Cerdda yn yr hyder dy fod wedi dy greu'n fwriadol, yn hysbys iawn, ac yn cael y gofal gorau posib.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Gall fod yn hawdd mynd ar goll yn yr hyn rwyt ti’n cael dy adnabod amdano a cholli allan ar bwy sy’n d’adnabod. Mae gan Air Duw lawer i'w ddweud amdanat ti, pwy wyt ti, a phwy a'th greodd i fod. Bydd y defosiwn 10 diwrnod hwn yn helpu i fynd â thi ar y daith i ddarganfod dy wir hunaniaeth.
More