Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnabod: 10 Diwrnod i Ddarganfod Dy HunaniaethSampl

Known: 10 Days to Discovering Your Identity

DYDD 5 O 10

Yn yr adnod hon, mae Paul yn dweud wrthym am ddau fath o wybodaeth. Un ohonyn nhw yw'r math o wybodaeth sydd gan Dduw i’n hadnabod; y llall yw sut y gellir defnyddio gwybodaeth i ddinistrio ein gilydd a'n llenwi â balchder. Daeth hyn i'r amlwg yn llythyr Paul at yr eglwys yng Nghorinth pan roddodd sylw i'r mater o fwyta bwyd wedi'i aberthu i eilunod. Ni roddodd Paul sylw a oedd yn iawn ai peidio, ond yn hytrach, SUT i drin yr awdurdod o allu ei fwyta. Roedd gan rai yn yr eglwys y wybodaeth (cywir!) fod bwyd a aberthir i eilunod yn berffaith iawn i'w fwyta gan nad oes gan eilunod unrhyw rym dros Dduw, ond roedd yr un wybodaeth gywir honno, wedi'i gwahanu oddi wrth gariad Duw, yn llenwi’r bobl gydag haerllugrwydd.

Gad i ni edrych ar 1 Corinthiaid 8:1-3 a chlywed ffordd well gan Paul.

  1. I droi at eich cwestiwn am gig wedi'i aberthu i eilun-dduwiau paganaidd: “Mae pawb yn gwybod y ffeithiau ac yn gallu dewis drostyn nhw eu hunain” meddech chi. Ond mae dweud ein bod ni'n gwybod yn hybu balchder; mae cariad, ar y llaw arall, yn adeiladu.
  2. Os ydy rhywun yn meddwl eu bod yn gwybod y cwbl, dŷn nhw'n gwybod dim byd mewn gwirionedd.
  3. Ond mae Duw yn gwybod pwy sy'n ei garu, ac mae'n gofalu amdanyn nhw.

Mae Paul yn dweud nad yw’r math o wybodaeth sy’n cynhyrchu balchder ac yn brifo pobl yn wir wybodaeth o gwbl (nid yw’n gwybod eto fel y dylai wybod). Ond y mae ail fath o wybodaeth y mae yn ei gyferbynnu â'r gyntaf. Ateb Paul i'r wybodaeth ffug hon yw cariad. Mae gwybodaeth o Dduw a ddefnyddir yn gywir yn troi yn gariad at Dduw, a dim ond oherwydd cymaint y mae Duw yn ein hadnabod mor dda y mae hyn yn bosibl. Mae Duw eisiau i'n perthynas ag e fod fel ffrindiau agos nad ydyn nhw'n rhannu unrhyw gyfrinachau.

Salm 25:14) “Mae'r ARGLWYDD yn rhoi arweiniad i'w ddilynwyr ffyddlon; ac mae'n dysgu iddyn nhw oblygiadau'r ymrwymiad wnaeth e..”

Y gair Hebraeg a ddefnyddir am gyfeillgarwch yma yw "Sod" sy'n sôn am y math o gyngor agos y mae un ffrind agos yn ei roi i un arall. Dyna sut mae Duw yn ein hadnabod ni. Mae'n siarad â ni trwy ei Air gyda chyngor agos atom, dibynadwy. Felly yn lle ceisio gwybodaeth i ennill mantais dros eraill, mae Duw eisiau iti geisio amdano fel ffrind. Pan fydd gen ti gyfeillgarwch dwfn â rhywun, rwyt ti'n cofio'r pethau maen nhw'n eu dweud, y pethau maen nhw'n eu hoffi, yr hyn sy'n eu goleuo, a'r hyn sy'n torri eu calon. Dyna sut mae'n dy adnabod ar hyn o bryd, ac mae am i ti ei adnabod e’n fwy a dod yn agosach ac yn fwy cyfarwydd ag e a'i Air bob dydd oherwydd dydy e ddim yn dymuno bod yn Waredwr, yn dad ac yn gynorthwyydd i ti’n unig. Mae hefyd eisiau bod yn ffrind i ti.

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Known: 10 Days to Discovering Your Identity

Gall fod yn hawdd mynd ar goll yn yr hyn rwyt ti’n cael dy adnabod amdano a cholli allan ar bwy sy’n d’adnabod. Mae gan Air Duw lawer i'w ddweud amdanat ti, pwy wyt ti, a phwy a'th greodd i fod. Bydd y defosiwn 10 diwrnod hwn yn helpu i fynd â thi ar y daith i ddarganfod dy wir hunaniaeth.

More

Hoffem ddiolch i Fresh Life Church (Levi Lusko) am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o fanylion dos i: http://freshlife.church