Adnabod: 10 Diwrnod i Ddarganfod Dy HunaniaethSampl
Wyt ti erioed wedi teimlo nad wyt ti’n dda a\m wneud unrhyw beth? Efallai bod ti’n gallu gwneud llawer o bethau a bod gen ti'r angerdd, ond nid dwyt ti ddim yn arbenigwr ar unrhyw un ohonyn nhw? Fi hefyd! Gall fod yn hawdd cwestiynu’r hyn y cei di dy alw iddo pan fo’r llais y tu mewn i’th ben yn dweud nad wyt ti’n gymwys, yn meddu ar yr offer, nac yn ddigon da a bod y llais hwnnw’n ymddangos yn uwch na llais Duw.
Sgwennodd Moses bum llyfr cyntaf y Beibl, a dyma fe’n dweud wrth Dduw nad oedd yn un da am siarad. Mae'n dweud yn y bôn nad Duw sy'n gwybod orau, ei fod wedi gwneud camgymeriad pan alwodd Moses. Ond os oedd Moses yn cael trafferth siarad, pam byddai Duw wedi ei ddefnyddio i arwain ei bobl ddewisol cyhyd? Mae’n ymddangos fod Moses wedi colli ei hunan-hyder, ond yr hyn oedd ei angen arno oedd cael hyder Duw.
Fyddi di byth yn deall yn iawn beth mae Duw yn ei feddwl neu ei gynllunio wrth iddo dy arwain a'th alw at bethau newydd, ond yr hyn y gelli di fod yn sicr ohono yw’r ffaith bod Duw YN ADNABOD ni. Mae'n gwybod sut i'th arfogi, sut i'th garu di, a sut i'th annog di. Does neb arall sy'n dy adnabod yn well nag e. Yn union fel y siaradodd Duw â Moses, gelli di fod yn hyderus yn y cynlluniau y mae Duw wedi dy alw iddyn nhw oherwydd mae wedi addo mynd gyda thi. Mae Duw yn ddigon i ofalu am dy holl ddiffygion gwirioneddol neu ddychmygol.
Gorffwysa yn yr hyder y bydd Duw yn dy arwain a'th arfogi ar gyfer y pethau y mae wedi dy alw iddyn nhw.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Gall fod yn hawdd mynd ar goll yn yr hyn rwyt ti’n cael dy adnabod amdano a cholli allan ar bwy sy’n d’adnabod. Mae gan Air Duw lawer i'w ddweud amdanat ti, pwy wyt ti, a phwy a'th greodd i fod. Bydd y defosiwn 10 diwrnod hwn yn helpu i fynd â thi ar y daith i ddarganfod dy wir hunaniaeth.
More