Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnabod: 10 Diwrnod i Ddarganfod Dy HunaniaethSampl

Known: 10 Days to Discovering Your Identity

DYDD 6 O 10

Ydy rhywun hynod bwysig i ti erioed wedi cofio dy enw mewn sgwrs? Efallai ei fod yn ffrind newydd, gweithiwr yn Starbucks, neu un neu un wnaeth ddwyn dy galon yn yr ysgol. Wyt ti'n cofio pa mor dda y gwnaeth i ti deimlo i gael dy adnabod yn y sefyllfa honno wrth dy enw? Wyt ti’n cofio pa mor dda y gwnaeth i ti deimlo clywed llais rhywun yr wyt yn ei edmygu yn gyfarch wrth dy enw, yn dy gofio, yn dy gydnabod, neu'n rhoi canmoliaeth ystyrlon iti? Mae'n gwneud i ti deimlo'n hysbys ac yn bwysig.

Dyna'r math o adnodau sydd i’w gweld yn Ioan 10 hefyd. Mae Iesu’n dweud wrthon ni, os ydyn ni’n rhoi ein hunain iddo ac yn gwrando ar ei lais bydd e’n ein hadnabod. Dychmyga Waredwr y byd yn gwybod yn union sut mae dy lais yn swnio!

Er mwyn i rywun adnabod dy lais, mae'n rhaid i ti gael perthynas â nhw. Meddylia am y peth; pe bae gen ti i recordiadau llais o'th holl ffrindiau agos a'th deulu ac yna'n gorfod dyfalu pa lais oedd pwy, wyt ti’n meddwl y gallet ti? Dw i'n siŵr y gallet ti ddyfalu'r rhan fwyaf ohonyn nhw. Pam? Achos rwyt ti'n siarad â nhw drwy'r dydd, bob dydd! Mae'r un modd gyda Iesu; po fwyaf o amser y byddwn ni’n ei dreulio gydag e, y mwyaf y down i adnabod ei lais! Clywais ddyfyniad unwaith a newidiodd y ffordd yr oeddwn yn meddwl am lais Duw yn llwyr. Dwedodd: “Fedri di ddim cwyno nad wyt ti’n clywed llais Duw os yw dy Feibl ar gau.” WAW! Tarodd y frawddeg honno fi'n galed y tro cyntaf i mi ei chlywed. Sut dŷn ni i fod i glywed llais Duw os nad ydyn ni yn ei Air, yn darllen ei eiriau, ac yn treulio amser gydag e mewn gweddi ac addoliad? Allwn ni ddim, a fyddwn ni ddim!

Y newyddion da yw bod Duw eisiau dy adnabod di! Mae eisiau adnabod dy lais; Mae eisiau i ti fod yn rhan o'i griw. Mae eisiau pawb - nid dim ond y rhannau tlws - pob un o'r rhannau!

Mae Iesu eisiau i ti adnabod y llais a greodd e ynot ti, ond i ddatgloi llais dy bwrpas mae'n rhaid i ti adnabod ei lais e'n gyntaf. Bydd yn ddafad; dilyn dy Fugail. Dilyna Iesu, a fyddi di byth yn gwybod sut beth yw mynd i rywle heb rywun sy'n adnabod dy lais.

Ysgrythur

Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Known: 10 Days to Discovering Your Identity

Gall fod yn hawdd mynd ar goll yn yr hyn rwyt ti’n cael dy adnabod amdano a cholli allan ar bwy sy’n d’adnabod. Mae gan Air Duw lawer i'w ddweud amdanat ti, pwy wyt ti, a phwy a'th greodd i fod. Bydd y defosiwn 10 diwrnod hwn yn helpu i fynd â thi ar y daith i ddarganfod dy wir hunaniaeth.

More

Hoffem ddiolch i Fresh Life Church (Levi Lusko) am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o fanylion dos i: http://freshlife.church