Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnabod: 10 Diwrnod i Ddarganfod Dy HunaniaethSampl

Known: 10 Days to Discovering Your Identity

DYDD 8 O 10

Mae Jeremeia 12:3a yn cyfleu ymwybyddiaeth o sut mae Duw yn ein hadnabod ni. Mae'n ein gweld, gallwn ofyn iddo ein rhoi ar brawf, a gallwn thrystio ynddo â'r hyn a ddaw o hynny. Yna, mae Salm 139:23-24 yn darlunio gweddi’r awdur ar i Dduw ARCHWILIO ei holl fodolaeth: calon, meddwl, a chorff.

Yn gyntaf, gweddi yw i “adnabod dy galon.” Meddylia am bob tro rwyt ti wedi cael dy gamddeall. Fe ddwedes di rywbeth mewn ffordd anghywir neu wnes di rywbeth gyda bwriadau da bod rhywun wedi’i gymryd y ffordd anghywir. Pan fyddi di'n cael dy archwilio gan Dduw sy'n adnabod dy galon, gelli di fod yn gwbl hyderus ei fod yn gweld y gorau yn yr hyn rwyt ti'n ei ddweud, ei wneud a'i feddwl bob amser.

Nesaf, mae’n weddi i Dduw “adnabod dy feddyliau pryderus.” Rwyt ti'n gwybod am beth dw i'n siarad. Y rhai rwyt ti'n teimlo gormod o embaras i'w dweud wrth y mwyafrif o bobl. Ac mae'n debyg nad wyt ti’n dweud GO IAWN wrth y bobl ti’n ddweud wrthyn nhw. Mae cael dy adnabod gan Dduw yw cael dy ddeall. Mae'n cael ei ddilysu. Mae mewn gwirionedd yn poeni am yr hyn yr wyt ti’n boeni amdano, ac mae dy bryderon yn gwbl ddilys iddo!

Yn olaf, mae’n weddi y byddai Duw yn gwybod ein gweithredoedd, hyd yn oed y rhai nad ydyn ni’n falch ohonyn nhw (ein “ffyrdd sarhaus,” neu ein pechodau) Brawychus! Pam fyddwn i eisiau i Dduw wybod am y ffordd roeddwn i'n trin y ffrind hwnnw amser cinio neu'r parti es i iddo wythnos diwethaf? Onid dyna fyddai'r peth olaf dw i eisiau i Dduw ei wybod amdanaf i?

Ond dyma’r peth: nid gweddi yw hon ar i Dduw farnu’r gwaethaf o’r pethau gwaethaf a wnes di. Mae'n weddi y byddai Duw yn adnabod pob manylyn bach amdanat ti: y da, y drwg, yr hyll, a'r hyll iawn. Ac eto, mae Duw yn gwybod nad wyt ti'n fygythiad! Darllena’r llinell olaf honno unwaith eto. Pam rydyn ni’n canmol Duw ei fod yn gwybod pob peth bach amdanon ni? Oherwydd pan fydd Duw yn ein hadnabod, gall ein harwain.

A ble mae e'n mynd â ni? Y ffordd dragwyddol - pan fydd Duw yn ein hadnabod, mae'n ein harwain i'r bywyd da, y bywyd llawn, y bywyd tragwyddol. Dyna mae'n ei olygu i gael dy adnabod gan y Duw sy'n dy garu yn fwy nag y gallet ti ei ddeall.

Ysgrythur

Diwrnod 7Diwrnod 9

Am y Cynllun hwn

Known: 10 Days to Discovering Your Identity

Gall fod yn hawdd mynd ar goll yn yr hyn rwyt ti’n cael dy adnabod amdano a cholli allan ar bwy sy’n d’adnabod. Mae gan Air Duw lawer i'w ddweud amdanat ti, pwy wyt ti, a phwy a'th greodd i fod. Bydd y defosiwn 10 diwrnod hwn yn helpu i fynd â thi ar y daith i ddarganfod dy wir hunaniaeth.

More

Hoffem ddiolch i Fresh Life Church (Levi Lusko) am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o fanylion dos i: http://freshlife.church