Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnabod: 10 Diwrnod i Ddarganfod Dy HunaniaethSampl

Known: 10 Days to Discovering Your Identity

DYDD 1 O 10

Wyt ti byth yn teimlo fel bag plastig yn chwyrlio yn y gwynt? Jocian. Ond go iawn nawr, wyt ti erioed wedi teimlo fel y clai yn yr adnodau hyn? Dim ond ychydig bach. . . yna. Heb fywiogrwydd na phwrpas?

Dydy’r clai ei hun bron ddim o unrhyw werth - baw gwlyb o'r ddaear. Di-siâp. Di-ffurf. Clai. Dw i'n meddwl y gallwn ni i gyd deimlo felly weithiau. Mae anesmwythder ac anfodlonrwydd yn dechrau ymlusgo i'n meddylfryd pan fyddwn yn mynd ati'n ddifeddwl i ddod o hyd i'n lle mewn bywyd dyddiol - yn ymdrechu i ffitio i mewn ac yn peryglu moesau neu safonau i deimlo ein bod wedi ein hadnabod. Ni yw'r clai.

Mae'r crochenydd, fodd bynnag, yn arlunydd medrus. Mae ganddo’r amynedd a'r weledigaeth i greu rhywbeth hardd a defnyddiol allan o glai. Pan fydd y crochenydd yn eistedd wrth ei olwyn i ddechrau saernïo rhywbeth newydd sbon, lle gwelwn bentwr o faw gwlyb, mae'n gweld y cyfan sydd ganddo i weithio ag e. Mae'n gwybod y bydd rhywbeth hardd yn dod allan ohono, felly mae'n treulio'r amser, yn ychwanegu pwysau, yn ffurfio rhywbeth unigryw a rhyfeddol.

Dw i ddim yn gallu bod ar fy mhen fy hun yn meddwl ar adegau, “Pam Duw? Pam fyddet ti'n treulio amser arna i tra dw i’n dal i bechu yn dy erbyn a bod yn anufudd?” Eto i gyd, mae'n gwneud. Mae'n GWYBOD dy ddiffygion. Mae'n GWYBOD ble rwyt ti'n wan. Mae'n dy adnabod di, ac mae'n fy adnabod i. Pan fyddi di ar ddrysu, neu pan fydd hi'n mynd yn anodd, atgoffa dy hun mai fe yw'r Crochenydd, sy’n ein mireinio, er ein lles, ac am ei ogoniant. Tra oedden ni’n glai diwerth, trwy Iesu, wnaeth y Crochenydd ein ffurfio ni - ac mae’n parhau i’n ffurfio - yn rhywbeth hardd! Mae wedi dy alw i rywbeth mwy na ti dy hun! Nid dim ond mwd wyt ti; clai yn llaw'r Crochenydd wyt ti.

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Known: 10 Days to Discovering Your Identity

Gall fod yn hawdd mynd ar goll yn yr hyn rwyt ti’n cael dy adnabod amdano a cholli allan ar bwy sy’n d’adnabod. Mae gan Air Duw lawer i'w ddweud amdanat ti, pwy wyt ti, a phwy a'th greodd i fod. Bydd y defosiwn 10 diwrnod hwn yn helpu i fynd â thi ar y daith i ddarganfod dy wir hunaniaeth.

More

Hoffem ddiolch i Fresh Life Church (Levi Lusko) am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o fanylion dos i: http://freshlife.church