Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnabod: 10 Diwrnod i Ddarganfod Dy HunaniaethSampl

Known: 10 Days to Discovering Your Identity

DYDD 3 O 10

Creodd Duw bopeth - popeth yn llythrennol, gyda llaw - creodd nhw i bwrpas. Pwrpas gwenynen yw peillio, gan helpu planhigion i dyfu, bridio a chynhyrchu bwyd. Pwrpas trawiad mellt yw helpu i doddi nitrogen na ellir ei ddefnyddio yn y dŵr, sydd wedyn yn creu gwrtaith naturiol y gall planhigion ei amsugno trwy eu gwreiddiau. Pwrpas coeden aethnenni yw darparu cynefin ar gyfer amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Er fod i bob peth bwrpas unigryw, y mae iddyn nhw oll un pwrpas cyffredin hefyd – tynnu sylw at Dduw trwy arddangos ei brydferthwch a'i ogoniant. Ond ni chafodd unrhyw beth arall ar y ddaear ei greu ar ddelw Duw fel ti a minnau. Rwyt ti'n ei adlewyrchu e mewn ffordd na all unrhyw beth arall ar y ddaear. Yn wahanol i'r sêr, dim ond ti a minnau all fynegi ei faddeuant, ei ras, a'i gariad i'r rhai o'n cwmpas.

Pan fyddi di'n buddsoddi dy amser a'th egni i reoli'r ffordd mae pobl eraill yn dy ddirnad, rwyt ti, nid yn unig yn creu fersiwn ohono ti dy hun sy'n aml yn ffug ac wedi'i lunio'n berffaith, ond rwyt ti hefyd yn colli allan ar bwrpas mwy yr Arglwydd ar dy gyfer.

Nid dy wedd allanol i'r byd o'th gwmpas yw pwrpas sut rwyt yn gwasanaethu ar y ddaear hon, ac nid dyna'r rheswm pam rwyt ti’n cael dy alaw yn un o’r cerrig gwerthfawr yng nghoron yr Arglwydd (Sechareia 9:16). Tra creodd Duw y sêr i ddisgleirio fel tlysau wedi'u gosod ymhell uwchlaw’r ddaear, fe'th greodd di i ddal gwir drysor y nefoedd o'th fewn. Rwyt ti'n cario Ysbryd Glân y Duw byw yn dy galon dy hun. Efallai mai dy bwrpas unigryw yw bod yn chwaraewr pêl fas, neu'n artist colur, neu'n therapydd corfforol, neu'n ddylunydd graffeg. Fodd bynnag dy bwrpas yn y pen draw fel plentyn i Dduw bob amser fydd adlewyrchu cariad Duw ac arddangos ei faddeuant, ei ras, a'i garedigrwydd i'th ffrindiau, dy dîm, dy ddosbarth, a'th deulu, mewn ffordd sy'n unig. Y gelli di yn unig ei ddangos.

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Known: 10 Days to Discovering Your Identity

Gall fod yn hawdd mynd ar goll yn yr hyn rwyt ti’n cael dy adnabod amdano a cholli allan ar bwy sy’n d’adnabod. Mae gan Air Duw lawer i'w ddweud amdanat ti, pwy wyt ti, a phwy a'th greodd i fod. Bydd y defosiwn 10 diwrnod hwn yn helpu i fynd â thi ar y daith i ddarganfod dy wir hunaniaeth.

More

Hoffem ddiolch i Fresh Life Church (Levi Lusko) am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o fanylion dos i: http://freshlife.church