Adnabod: 10 Diwrnod i Ddarganfod Dy HunaniaethSampl

Wyt ti erioed wedi teimlo'n ansicr? Wyt ti erioed wedi teimlo bod yr hyder rwyt ti ei angen ychydig allan o dy gyrraedd? Wyt ti erioed wedi teimlo pe byddet ti'n gweithio'n ddigon caled, byddet ti'n edrych fel hi? Wyt ti erioed wedi teimlo pe bai gen ti ferch ddel yn gariad, byddet ti'n ffitio mewn gyda sgwrs y stafell newid yn y gampfa? Wyt ti erioed wedi teimlo pe gallet ti gadw i fyny â’r duedd ddiweddaraf, yna efallai y byddet ti’n fodlon gyda dy gorff? Am ryw reswm, mae hyder bob amser yn teimlo’n bell i ffwrdd er gwaethed dy ymdrechion gorau.
Mae’r adnod agoriadol yn Salm 23 yn dweud wrthym “Yr Arglwydd ydy fy mugail i.” Mewn dim ond y pum gair agoriadol hynny, rwyt yn gallu darganfod yr hunaniaeth a'r hyder y cefaist ti dy greu ar eu cyfer. Efallai y bydd diwylliant heddiw yn ceisio cyfleu bod angen i ti greu dy hunaniaeth dy hun a dibynnu ar hunanhyder i'th gario trwy fywyd. Ond y gwir yw, dŷn ni i gyd wedi'n cynllunio i fod yn gwbl ddibynnol ar Dduw ac i edrych ato am dy hyder, dy bwrpas, a'th hunaniaeth.
Os wyt ti'n Gwglo’r diffiniad o hyder, fe weli ei fod yn golygu “cael y teimlad neu'r gred y gall rhywun ddibynnu a gallu trystio’n sicr yn rhywun neu rywbeth.” I’r graddau y gelli di ddeall y gwirionedd hwnnw, a chredu mai’r “rhywun neu rywbeth” yw Iesu, byddi di’n yn gallu cerdded yn llawn hyder, ei drystio, a dibynnu arno, gan gredu ei fod yn dy adnabod di, dy anghenion, dy ddymuniad., a'th galon.
Mae cymaint o wahanol lwybrau y gallet ti grwydro i lawr gan obeithio y byddai un ohonyn nhw’n dod â hyder, llawenydd neu bwrpas i ti. Ond harddwch dilyn Iesu yw, os wyt ti'n cadw dy lygaid arno, yna rwyt ti ar y llwybr iawn yn barod. Fe fydd yna eiliadau o hyd sy'n ymddangos yn dywyll, a dyddiau lle mae'r pwysau'n ormodol, ond yn yr amseroedd hynny bydd gen ti hyder Duw dy fod ar ei lwybr yn cael gofal a chariad a bod gen ti bwrpas yn union fel yr wyt ti. p>
Rwyt ti wedi dy ddylunio gan Dduw sy'n dy adnabod, sy'n deall beth sydd ei angen arnat, a phwy yw'r un y gallet ti ddibynnu arno bob amser.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Gall fod yn hawdd mynd ar goll yn yr hyn rwyt ti’n cael dy adnabod amdano a cholli allan ar bwy sy’n d’adnabod. Mae gan Air Duw lawer i'w ddweud amdanat ti, pwy wyt ti, a phwy a'th greodd i fod. Bydd y defosiwn 10 diwrnod hwn yn helpu i fynd â thi ar y daith i ddarganfod dy wir hunaniaeth.
More
Cynlluniau Tebyg

P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw

Rhoi iddo e dy Bryder

Ymarfer y Ffordd

Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill

Coda a Dos Ati

Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist

Dwyt ti Heb Orffen Eto

Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd

Hadau: Beth a Pham
