Defosiwn Diolchgarwch Dyddiol Paul TrippSampl
Beth sy'n dod i'r meddwl pan rwyt yn ystyried beth yw gweddi? Pan rwyt yn gweddïo beth wyt ti ei eisiau gan Dduw? Pa geisiadau sy'n dominyddu dy fywyd o weddi?
Mae gwir weddi'n digwydd ar y groesffordd rhwng ildio a dathlu. Mae gweddi'n gymaint mwy na pasio rhestr o ddymuniadau i Dduw a gadael iddo wybod dy fod yn falch ei fod yn bodoli a chyda'r grym i ymateb. Mae'r math yna o weddi'n dy osod di'n y canol, ac i raddau helaeth iawn, yn iselhau Duw i ryw weinydd ddwyfol. Nid fe wyt ti eisiau. Nid dyma'r ddoethineb rwyt yn ei weld dy fod angen. Nid ei ras e mae dy galon yn awchu amdano. Mae gweddïau o ddymuniadau yn dweud, "Dw i'n gwybod beth sydd orau ar gyfer fy mywyd, a mi faswn i, o Dduw, yn gwerthfawrogi tase ti'n defnyddio dy fawredd i wneud iddo ddigwydd."
Rwyt yn gweddïo fel hyn pan rwyt yn anghofio fod Duw, fel y Crëwr a'r Gwaredwr, yn gwybod yn anfeidrol fwy beth sydd wirioneddol ei angen arnat. Ond, yn fwy na hynny, mae'r math yma o weddi'n gwneud bywyd i gyd am dy anghenion dy hun, a dy deimladau. Nid gweddi yw hyn o gwbl. Mewn gweddïau go iawn rwyt yn ildio dy hawl i dy fywyd i gynlluniau doethach a phwrpasau Duw. Rwyt yn ymostwng dy ewyllys i'w ewyllys e. Nid Duw yw e'n llofnodi dy restr, ti yw e'n ildio dy fywyd iddo.
Felly, dathliad yw gweddi. Mewn gweddi rwyt yn ymhyfrydu'n y syndod o'r hyn, mae'n e'n olygu i gael Tad nefol go iawn. Rwyt yn darganfod llawenydd yn y gwirionedd ei fod wedi dewis rhoi i ti ei deyrnas. Mae hi'n ben-ffrwydrol ei fod yn rhyddhau ei rym hollalluog i ateb dy anghenion. Rwyt yn dathlu maddeuant, achubiaeth, trawsnewidiad, galluogi, a gras sy'n rhyddhau. Rwyt yn darganfod llawenydd o gael dy gynnwys yn ei waith o achub. Rwyt yn darganfod gobaith yn y dyfodol godidog sydd i ddod. Rwyt mewn syndod, am fod Emaniwel wedi meddiannu dy fywyd yn ei ras, dwyt ti fyth, byth ar ben dy hun. Rwyt yn darganfod heddwch yn y ffaith fod gras yn golygu na fyddi byth ar ben dy hun i wynebu adnoddau bach dy ddoethineb dy hun, cyfiawnhad, na'th nerth dy hun. Rwyt yn myfyrio ar ogoniant a daioni Duw, ac yna'n dathlu. Rwyt yn llawen hau'n y ffaith nad oes raid i ti chwilio am fywyd yn y bobl, y sefyllfaoedd, na'r lleoliadau o'th gwmpas, ond rwyt wedi derbyn bywyd - bywyd sy'n dragwyddol.
Ydy gwir weddi'n cynnwys yn gwneud ceisiadau ar Dduw? Wrth gwrs ei fod e. Mae Duw'n ein hannog i daflu ein pryderon arno, oherwydd mae e'n wirioneddol ofalu amdanom. Ond mae ceisiadau gwir weddi wastad yng nghyd-destun ildiad a dathlu. Ildio a dathlu sy'n cadw'r ceisiadau hynny rhag bod yn ddymuniadau hunanol neu gwynion chwerw. Mae'r math hon o weddi'n arf yng ngras Duw yn dy fywyd. Wrth i ti roi Duw lle dylai fod ac yn dathlu dy le fel ei blentyn, mae gweddi'n arf mae Duw'n ei defnyddio i'th ryddhau o'th hunan. Nawr, dyna beth yw gras!
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae cyfnod y diolchgarwch yn gyfle i gpfio'r holl bethau da mae Duw wedi'u rhoi i ni, yn ei ras. Ond weithiau, mae prysurdeb y tymor yn ein cadw rhag cymryd amser i ddiolch i Dduw am ei holl roddion. Bydd y defosiynau llawn anogaeth yma gan Paul David Tripp yn cymryd ddim mwy na 5 munud i'w darllen, ond yn dy annog i fyfyrio ar drugaredd Duw ar hyd y diwrnod cyfan.
More