Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Defosiwn Diolchgarwch Dyddiol Paul TrippSampl

Paul Tripp's Daily Thanksgiving Devotional

DYDD 9 O 12

Wrth i mi sgwennu rhinweddau cymeriad cariad go iawn, "gwirionedd, gostyngeiddrwydd, llawenydd, dyfalbarhad," roedd fy nghalon yn llawn tristwch o argyhoeddiad. Meddyliais, "Dydy fy arwydd o gariad ddim yn wir." Dydw i ddim yn golygu gwir sy'n wrthwyneb i ffug, a dw i ddim yn golygu bod yn ragrithiol sef "mod i'n mynd i actio fel mod i'n dy garu pan dydw i ddim." Mae gwir yma'n golygu "unionsyth" fel y saeth fyddai bwa saethwr yn ei ddefnyddio. Mae o angen saeth sy'n berffaith syth fel na fydd yn gwyro i'r cyfeiriad anghywir pan mae'n gadael y bwa. Mae gwir, yma'n golygu cyson, dibynadwy, a ddim â thuedd i fynd mewn cyfeiriad di-gariad. Yn anffodus mae yna anghysondeb yn dal i fod yn fy nghariad. Pan mae rywun yn anghytuno â mi, pan mae rywun yn rwystr i'm cynllun, pan dw i'n cael fy atal rhag symud ymlaen, neu pan mae rywun yn derbyn beth mae nhw'n haeddu, mae hi'n demtasiwn i mi ymateb mewn ffordd llai na chariadus.

Mae'r gair olaf yn ein harwain at y safon uchaf a chaletaf o gariad: dyfalbarhad. Does gan gariad sydd ddim yn ffyddlon fawr ddim gwerth. Dydy cariad cyfnewidiol ddim yn gariad go iawn. Mae e'n gariad anwadal a thros dro sy'n gwneud mwy o ddrwg na da. Dyna pam fod cariad tragwyddol a ffyddlon Duw yn gymaint o gysur cymhellol.

Y cwestiwn felly yw, "Ble yn y byd dw i'n mynd i gael y math yma o gariad?" Wel, dydy o fyth yn mynd i ddod ohonot ti wrth i ti godi dy hun ar dy draed a dweud dy fod yn mynd i wneud yn well. Petasai gen ti'r math yma o hunan-ddiwygio, byddai dim angen am groes Iesu Grist. Yr unig ffordd dw i'n gallu dianc oddi wrth y hunan-ffocws o gaethiwed fy nghariad at fy hun a dechrau caru eraill yw cael cariad maddeugar, sy'n rhyddhau, awdurdodi, ac yn dragwyddol, wedi'i osod arna i. Po fwyaf dw i'n ddiolchgar am y cariad hwnnw, po fwyaf dw i'n ddarganfod ar y llawenydd o roi i eraill. Mae cariad Duw, sydd wedi'i roi o'i fodd, yn darparu'r unig obaith fy mod yn gallu cael cariad yn fy nghalon y gallaf rannu'n llawen ag eraill hefyd.

Diwrnod 8Diwrnod 10

Am y Cynllun hwn

Paul Tripp's Daily Thanksgiving Devotional

Mae cyfnod y diolchgarwch yn gyfle i gpfio'r holl bethau da mae Duw wedi'u rhoi i ni, yn ei ras. Ond weithiau, mae prysurdeb y tymor yn ein cadw rhag cymryd amser i ddiolch i Dduw am ei holl roddion. Bydd y defosiynau llawn anogaeth yma gan Paul David Tripp yn cymryd ddim mwy na 5 munud i'w darllen, ond yn dy annog i fyfyrio ar drugaredd Duw ar hyd y diwrnod cyfan.

More

Hoffem ddiolch i Workmatters am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.crossway.org/books/new-morning-mercies-hcj/